Diolch i Ellie George am gyflwyno ein plac Achrededig Platinwm i'r cadeirydd Simon Jones a'r ysgrifennydd Chris Gumn 🐗🏆
Archwiliwch y clwbDewislen
Diolch i Ellie George am gyflwyno ein plac Achrededig Platinwm i'r cadeirydd Simon Jones a'r ysgrifennydd Chris Gumn 🐗🏆
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod Clwb Rygbi Llangefni wedi ennill Achrediad Platinwm URC—y lefel uchaf sydd ar gael. Mae hyn yn cydnabod rhagoriaeth y clwb ym meysydd llywodraethu, datblygu, seilwaith a chynaliadwyedd hirdymor. 🐗🏉🤩🏆🥇
Cinio Blynyddol a Noson Wobrwyo 1/5/2026 @ 19:00
Ticedi ar gael ar ein gwefan yn awr!🐗🍽🎫🏆
Noson wobrwyo gwirfoddolwyr cymuned URC nos fory! 🐗🏉👏
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni nos Wener 5ed Gorffennaf 2024 am 6.30 yr hwyr yng Nghae Smyrna, Llangefni.
Ar ôl yr adran busnes fydd trafodaeth ynghylch estyniad y clwb. Fydd hwn yn prosiect mawr fydd angen cymorth drwy'r clwb gyfan felly yr ydym yn gobeithio newch ymdrech i fynychu.
Balch iawn i gyhoeddi Alwyn Hughes fel prif hyfforddwr y Tîm Ieuenctid am y tymor 2024/2025. Pob lwc! 🐗🏉👏
🚨 Cyfle noddi 🚨
Tîm Ieuenctid 🐗🏉
Angen noddwyr crysau chwarae - cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth 🤝
Ennillwyr 7 pob ochr ieuenctid RGC gogledd Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol! Tîm gwyn colli yn ffeinal y bowlen 🐗🏉🏆💪
Tudur yn sgorio tri chais i Cymru Dan 18 yn erbyn Portiwgal! 🐗🏉🏴🇵🇹👏
Llongyfarchiadau, Tudur! Cap #1 🐗🏴🏉
Llongyfarchiadau enfawr a phob lwc i'n mewnwr Tîm Ieuenctid, Tudur Jones ar cae ei ddewis i garfan Cymru Dan 18 i chwara Yr Alban penwythnos yma! 🐗🏉🏴👏
Llongyfarchiadau a phob lwc i Tudur Jones o’n tîm ieuenctid a Leah Stewart a Begw Ffransis o’n MônStars!🐗🐗🐗🏉👏🏴
Canlyniad:
Ieuenctid 22-17 Bethesda
Ennillwyr Cwpan Ieuenctid RGC! 🐗🏉👏🔥🥓🏆
Seren y gêm - Capten, Tomos Rogers! 🐗🏉🤩
🏆 Gwobrau Chwaraeon Môn Actif 2023
⭐️ Clwb Iau y Flwyddyn
Diolch enfawr a da iawn i'n holl wirfoddolwyr adran iau anhygoel, sy'n aberthu cymaint o'u hamser rhydd i greu amgylchedd mor wych i'n plant ddarganfod eu cariad at rygbi.
PLWS……..
Llongyfarchiadau enfawr i'n 3 seren ryngwladol - Catrin Stewart, Celt Ffransis and Owain Evans am eu llwyddiant heno ⭐️⭐️⭐️
Mae’r dyfodol yn ddisglair🌟
🚨 TÎM NEWYDD ARLWYO A BAR! 🚨
Mae’n bleser ymestyn croeso cynnes i’n teulu rygbi i Sarah a’i thîm — Chris, Emily, Llio, Toby, Mike, Teri, Noella, Sarah a Dani! 🐗🏉🤝🍽️🍻
Cyfle Busnes yng Nghlwb Rygbi Llangefni🐗🍽🍻
Mae gan ein clwb llewyrchus gyfle busnes i'r person iawn i redeg y gegin, y gwasanaeth arlwyo a'r bar. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu busnes gyda photensial i ehangu.
I ddysgu mwy neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch:
Meic 07840 403986 / Simon 07774 905567
Pentwr o rygbi cyffwrdd ymlaen trwy'r haf, beth am ymuno yn yr hwyl?🐗🏉😎
Ymarfer cyn tymor Tîm Ieuenctid yn cychwyn 5/7/2023🐗🏉💪
Dewch i ymuno â ni yng Nghae Smyrna ar gyfer Diwrnod Gwobrwyo’r Adran Iau a dathlu diwedd ein hanner canfed blwyddyn fel clwb rygbi!
Dewch â’r teulu i gyd a mwynhau pnawn o ddathlu gyda’ch teulu rygbi! 🐗🏉🏆🏅
Pencampwyr 7 pob ochr ieuenctid gogledd Cymru 2023!🐗🏉🏆🥇🥓👏
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn falch o gyhoeddi penodiad Andrew McMinimee yn Swyddog Hwb. Partneriaeth yw'r penodiad rhwng Undeb Rygbi Cymru, Ysgol Uwchradd Bodedern, Ysgol Uwchradd Llangefni a'r Clwb. Mae Andrew yn chwarae i'n tîm cyntaf ac erdychwn ymlaen i weithio gydag o i hybu a datblygu cyfleon rygbi yn yr ardal.🐗🏉🤝
Llongyfarchiadau a phob lwc i Owen Parry a Celt Ffransis o'n tîm ieuenctid ar cael eu dewis i camp ymarfer Cymru Dan 18!🐗🐗🏴🏴🏉👏👏
Mae ein tîm ieuenctid yn recriwitio chwaraewyr am tymor 2022-2023. Croeso i chwaraewyr newydd a cyn chwaraewyr. Ymarfer cyn tymor pob nos Fercher 19:00 - 20:30🐗🏉😎
Llongyfarchiadau a phob lwc i Rob o'n tîm ieuenctid ar cael ei ddewis i Carfan Rygbi Cynghrair Cymru Dan 19!🐗🏴💪😎