Diolch i Ellie George am gyflwyno ein plac Achrededig Platinwm i'r cadeirydd Simon Jones a'r ysgrifennydd Chris Gumn 🐗🏆
Archwiliwch y clwbDewislen
Diolch i Ellie George am gyflwyno ein plac Achrededig Platinwm i'r cadeirydd Simon Jones a'r ysgrifennydd Chris Gumn 🐗🏆
Llongyfarchiadau i bawb a gwblhaodd y Cwrs Hyfforddi Tagiau URC yn CR Llangefni neithiwr! Mae'r dyfodol yn ddisglair i'n Sgwadiau Tagiau! Diolch yn fawr i Dafydd Roberts am redeg y cwrs. Mwynhaodd pawb. 👍🏉🐗🏉🏴
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod Clwb Rygbi Llangefni wedi ennill Achrediad Platinwm URC—y lefel uchaf sydd ar gael. Mae hyn yn cydnabod rhagoriaeth y clwb ym meysydd llywodraethu, datblygu, seilwaith a chynaliadwyedd hirdymor. 🐗🏉🤩🏆🥇
Diolch i Tristian am sesiwn wych arall yn Clwb Rygbi Llangefni 💪🏼🏉⭐️ #yempact
Gwydnwch Meddwl ✅
Meddylfryd Twf ✅
Gallu Adlamu ✅
Pencampwyr! 🐗🏉🏆👏👏👏
Dan 14 37-24 Bro Ffestiniog
Canlyniadau Cwpan Iau RGC:
Dan 14 24-14 Nant Conwy 🐗🏉🏆👍
Dan 12 45-5 Bae Colwyn 🐗🏉🏆👍
Diolch yn fawr iawn i Jasmine Joyce am ymweld a'n hadran iau ddoe! 🐗🏉🏴🇬🇧🤩
Noson wobrwyo gwirfoddolwyr cymuned URC nos fory! 🐗🏉👏
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni nos Wener 5ed Gorffennaf 2024 am 6.30 yr hwyr yng Nghae Smyrna, Llangefni.
Ar ôl yr adran busnes fydd trafodaeth ynghylch estyniad y clwb. Fydd hwn yn prosiect mawr fydd angen cymorth drwy'r clwb gyfan felly yr ydym yn gobeithio newch ymdrech i fynychu.
D11s: Am ddiweddglo gwych i'n tymor! ⭐️
Ni allem fod wedi gofyn am well anfoniad i'n merched 🥰
Diolch i Clwb Rygbi Llandudno Rugby Club am ddiwrnod gwych o rygbi yn nhwrnament coffa ‘Welly’ 🏉💪🏼🙌
Enillwyr……🥇
Dewch i ymuno â ni yng Nghae Smyrna ar gyfer Diwrnod Gwobrwyo’r Adran Iau!
Dewch â’r teulu i gyd a mwynhau pnawn o ddathlu gyda’ch teulu rygbi! 🐗🏉🏆🏅
Llongyfarchiadau mawr i’r garfan O dan 13 ar eu llwyddiant dros y penwythnos-Enillwyr Cwpan Clwb Rygbi Bethesda! Chwarae slic a gwaith tim rhagorol 🐗🏉🏆🤩
🚨 TÎM NEWYDD ARLWYO A BAR! 🚨
Mae’n bleser ymestyn croeso cynnes i’n teulu rygbi i Sarah a’i thîm — Chris, Emily, Llio, Toby, Mike, Teri, Noella, Sarah a Dani! 🐗🏉🤝🍽️🍻
Cyfle Busnes yng Nghlwb Rygbi Llangefni🐗🍽🍻
Mae gan ein clwb llewyrchus gyfle busnes i'r person iawn i redeg y gegin, y gwasanaeth arlwyo a'r bar. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu busnes gyda photensial i ehangu.
I ddysgu mwy neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch:
Meic 07840 403986 / Simon 07774 905567
Pentwr o rygbi cyffwrdd ymlaen trwy'r haf, beth am ymuno yn yr hwyl?🐗🏉😎
Dewch i ymuno â ni yng Nghae Smyrna ar gyfer Diwrnod Gwobrwyo’r Adran Iau a dathlu diwedd ein hanner canfed blwyddyn fel clwb rygbi!
Dewch â’r teulu i gyd a mwynhau pnawn o ddathlu gyda’ch teulu rygbi! 🐗🏉🏆🏅
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn falch o gyhoeddi penodiad Andrew McMinimee yn Swyddog Hwb. Partneriaeth yw'r penodiad rhwng Undeb Rygbi Cymru, Ysgol Uwchradd Bodedern, Ysgol Uwchradd Llangefni a'r Clwb. Mae Andrew yn chwarae i'n tîm cyntaf ac erdychwn ymlaen i weithio gydag o i hybu a datblygu cyfleon rygbi yn yr ardal.🐗🏉🤝
⭐️D11⭐️
Diolch i Geraint Evans, Rheolwr Gweithrediadau o Glanbia am ddod draw i Cae Smyrna heno i gyflwyno y crysau chwarae newydd i’r tîm Dan 11. Diolch yn fawr iawn i Glanbia Cheese Ltd am noddi y crysau bendigedig yma. 🐗👏🎉
Diolch yn fawr iawn i pawb sydd wedi noddi crysa chwara newydd ein timau adran iau - edrych ymlaen i'w gweld yn chwarae ynddynt!🐗🏉😎
Ymarfer cyn tymor i'r tîm Dan 16 yn cychwyn 3/8/2022 18:00 - 19:10. Croeso i chwaraewyr newydd a cyn chwaraewyr!🐗🏉😎
Dreigiau⚫️ 41-50 RGC 🟣
Dreigiau🔴 31-24 RGC ⚫️
Cais pob un i Dion, Tudur a Rhys. Da iawn hogia!🐗🐗🐗🐗🐗🐗🏉🏉🏉👏
Diolch i Andrew McMinimee am tynnu y llun!🤣🐗📷👍
Diolch yn fawr iawn ENFAWR i'r holl noddwyr sydd wedi cyfrannu tuag at prynu crysa newydd i'r timau adran iau!🐗🏉😎👏
Un yn ymarfer efo carfan Cymru Dan 20 a’r llall yng ngharfan RGC Dan 16. Teulu rygbi🐗🐗🏉💪
Llongyfarchiadau i Aron, Dion, Tudur, Tomos a Rhys am cael eu dewis i garfan Dan 16 RGC🐗🐗🐗🐗🐗🏉👌