Da iawn i Gethin Lindley, Twm Tudor, Gethin Williams a Harri Burns o’r tim ieuenctid am gamu fyny i’r ail dim heno! Perfformiadau gwych gan y pedwarawd gyda Twm yn sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf i’r dynion 💪🏻🏉🐗
Archwiliwch y clwbDewislen
Da iawn i Gethin Lindley, Twm Tudor, Gethin Williams a Harri Burns o’r tim ieuenctid am gamu fyny i’r ail dim heno! Perfformiadau gwych gan y pedwarawd gyda Twm yn sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf i’r dynion 💪🏻🏉🐗
Llongyfarchiadau ENFAWR i Celt Ffransis ar cael ei ddewis yng ngharfan Cymru Dan 18! Pob lwc!🐗🏉💪🏴🏴
Llongyfarchiadau i Celt Ffransis ar cael ei ddewis i garfan ymarfer Cymru Dan 18! Pob lwc!🐗🏴🏉💪
Llongyfarchiadau RGC ar eu buddugoliaeth yn erbyn Scarlets Dan 18 heddiw 36-29!🐗🐗🐗🐗🐗🐗🏉👌
Da iawn hogia ieuenctid Cefni mewn gêm mewnol RGC heddiw!🐗🐗🐗🐗🐗🐗🐗🏉💪
Un yn ymarfer efo carfan Cymru Dan 20 a’r llall yng ngharfan RGC Dan 16. Teulu rygbi🐗🐗🏉💪
Llongyfarchiadau enfawr i Owain Evans ar cael ei ddewis i garfan ymarfer datblygu Cymru Dan 20 yn erbyn Tîm Datblygu Yr Alban. Pob lwc Ows!🐗🏉🏴👌
Da iawn chi heddiw hogia, gobeithio wnaethoch mwynhau y profiad!🐗🐗🐗🐗🐗🏉👏
Celt wedi sgorio cais a Kian efo tri trosgais heddiw i RGC. Da iawn hogia!🐗🐗🏉👏👏
Yr ydym wedi cael ein dewis ar gyfer #GreenTokenGiving yn #Asda #Llangefni. Pleidleisiwch i ni heddiw a gallem derbyn £500 gan #AsdaFoundation #Community
Mae eich pleidlais yn golygu byddem yn gallu disodli yr offer sydd yn cael ei defnyddio gan ein adran iau, ieuenctid, genod, merched a timau dynion a gafodd ei ddifrodi yn ddiweddar #GreenTokenGiving #AsdaFoundation
Diolch!🐗🏉🙌
Crys teyrnged i Huw “Stretch” – rhywbeth bach i’w gofio. Dyma oedd steil crys clwb pan roedd Huw yn rhan o’r Tîm Ieuenctid a pan oedd yn cychwyn efo’r tîm 1af.🐗🏉❤💛
Fydd archebion yn cymeryd o leia 10 wythnos i’w cyflawni. Mae maint crysa Macron yn llai na’r arferol felly gofalwch edrych ar y siart maint. Fydd yr archeb gynta yn cael ei gau 19/7.
Mae cofrestriad chwarewyr am y tymor 2021/2022 wedi agor arlein drwy WRU Game Locker i pob chwaraewyr a phob oedran.🐗🏉👌
Wythnos Gwirfoddolwyr 2021
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn cybnabod cyfraniad gwirfoddolwyr ym mhob agwedd o glwb chwaraeon llwyddiannus yng nghanol y gymdeithas leol ac yn arbennig yn ystod cyfnod mor heriol🐗🏉👏👏👏
🐗🏉😎🤞
🚨Dychwelyd i ymarfer rygbi Dan 18🚨
Yn dilyn cyhoeddiad URC yr ydym yn gallu ail gychwyn ymarfer I oedrannau Dan 18 ac i lawr o 27ain Mawrth. Mae mwy o fanylion i ddilyn i wneud efo niferoedd ayyb.
Ar ôl cyfarfod pwyllgor rygbi yr ydym wedi penderfynnnu, oherwydd yr amseru efo ysgolion yn ail gychwyn a cynnydd mewn achosion yng Nghaergybi ac ar yr ynys yn gyffredinol i ddisgwyl tan ar ôl gwylia Pasg i ail gychwyn.
Os fydd niferoedd achosion wedi dod lawr yn y cyfamser yr ydym yn edrych ar dyddiad o 12ed Ebrill ymlaen i ail gychwyn. Wrth gwrs mae hyn yn gwbl ddibynnol ar y sefyllfa ar y pryd. Mor awyddus ac yr ydym i ail gychwyn ein blaenoriaeth ydi diogelwch pawb. Gobeithio wela ni chi yn fuan!🐗🏉🤞
Ennillwyr plât Ieuenctid 1991 - a mae'r crys dal i ffitio Mike!🐗🏉😎🥇
Pa crys da chi am wisgo? Croeso cynnes o hyd i aelodau newydd i'n teulu rygbi🐗🏉😎 #CrysIBawb #TeuluRygbi
Cadwch yn saff a wela ni chi ar ôl y toriad 🐗🏉👍
Adroddiadau gemau 5ed Ionawr 1991!🐗🐗🏉
Dyma gynllun o'r system un-ffordd ar gyfer sessiynna ymarfer. Mae dau safle dihenitio dwylo, un wrth ddod i fewn a llall ar y ffordd allan. Gofynnwn hefyd i bawb droi fyny ar amser fel ein bod yn cadw trefn - cofiwch parcio ym maes parcio'r cyngor, DIM y clwb. Os yn fuan arhoswch yn y car nes mae'n amser. Mae'n hynod o bwysig fod pawb yn dilyn y drefn er mwyn diogelwch pawb. Diolch am eich cydweithrediad a fedra ni ddim disgwyl gweld pawb yn ôl ar Gae Smyrna!🐗🏉😍😎🥳
Penblwydd hapus i Rhys a Dylan heddiw! Mae Rhys yn chwaraewr tîm 1af presennol sydd wedi dod trwy ein Adran Iau a Dylan yn gyn chwaraewr, sydd hefyd wedi dod trwy'r Adran Iau sydd rwan yn rhannu ei brofiad gyda'r tîm Dan 7!🐗🐗🏉🥳🍰
Yn dilyn cyfarwyddiadau gan URC yr ydym yn gallu cychwyn ymarfer mewn grwpiau bach o mis Awst ymlaen gan dilyn canllawiau yr undeb ynlgyn a COVID-19 er mwyn diolgeu iechyd ein aelodau. Yn ogystal mae cofrestru a trosglwyddo chwaraewyr yn ail agor ar y 1af o Awst a fydd rhaid i pawb fod wedi cofrestru ac eistedd cwrs arlein syml ymwybyddiaeth COVID-19 mwyn cael cymeryd rhan. Mae croeso i chwaraewyr newydd ymuno ein teulu rygbi felly cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yr ydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Gae Smyrna!🐗🐗🐗🏉🤩
Yn ystod Wythos Gwirfoddoli, a drwy gydol y flwyddyn, mae Clwb Rygbi Llangefni yn dathlu a cydnabod cyfaraniad amhrisiadwy yr holl wirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed i gynnal a datblygu ein Clwb. Hebddynt ni fydd yna gyfle i gymaint o bobl ifanc fwynhau gem orau'r byd.🐗🤩🏉👏
Diolch
Canllawiau diweddara gan URC🐗🏉👍