Diolch i Ellie George am gyflwyno ein plac Achrededig Platinwm i'r cadeirydd Simon Jones a'r ysgrifennydd Chris Gumn 🐗🏆
Archwiliwch y clwbDewislen
Diolch i Ellie George am gyflwyno ein plac Achrededig Platinwm i'r cadeirydd Simon Jones a'r ysgrifennydd Chris Gumn 🐗🏆
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod Clwb Rygbi Llangefni wedi ennill Achrediad Platinwm URC—y lefel uchaf sydd ar gael. Mae hyn yn cydnabod rhagoriaeth y clwb ym meysydd llywodraethu, datblygu, seilwaith a chynaliadwyedd hirdymor. 🐗🏉🤩🏆🥇
Llongyfarchiadau mawr i Efa Parry ag Erin Carson ar ôl iddynt cynrychioli tim dan 18 Cymru penwythnos dwytha yn Vicenza yn erbyn yr Eidal! Buddigoliaeth o 32 pwynt i 28. Gwych genod! 👏🏻🤩🐗🐗🏴🇮🇹
Diolch i Tristian am sesiwn wych arall yn Clwb Rygbi Llangefni 💪🏼🏉⭐️ #yempact
Gwydnwch Meddwl ✅
Meddylfryd Twf ✅
Gallu Adlamu ✅
Rowndiau Terfynol RGC Diwrnod 1: Dydd Sadwrn 03 Mai
Llongyfarchiadau mawr i'n timau MonStars D14 a D16 ⭐️🏉🏆
Dyna ddechrau ……!!
Da iawn genod 💪🏼
Diolch yn fawr iawn i Jasmine Joyce am ymweld a'n hadran iau ddoe! 🐗🏉🏴🇬🇧🤩
Noson wobrwyo gwirfoddolwyr cymuned URC nos fory! 🐗🏉👏
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni nos Wener 5ed Gorffennaf 2024 am 6.30 yr hwyr yng Nghae Smyrna, Llangefni.
Ar ôl yr adran busnes fydd trafodaeth ynghylch estyniad y clwb. Fydd hwn yn prosiect mawr fydd angen cymorth drwy'r clwb gyfan felly yr ydym yn gobeithio newch ymdrech i fynychu.
Dewch i ymuno â ni yng Nghae Smyrna ar gyfer Diwrnod Gwobrwyo’r Adran Iau!
Dewch â’r teulu i gyd a mwynhau pnawn o ddathlu gyda’ch teulu rygbi! 🐗🏉🏆🏅
Llongyfarchiadau anferthol i un o hoelion wyth y clwb - Gareth Parry - am gael ei gydnabod gan yr URC am ei waith caled yn datblygu rygbi merched ar Ynys Môn a Gogledd Cymru. Heb gwaith arloesol Gareth, mae hi’n saff i ddweud fuasai y hwb merched MônStars ddim yn bodoli. Rydan ni’n falch iawn ohonat ti GP ❤️🏉🐗
Pob lwc i Begw a Leah heddiw yn erbyn Iwerddon! 🤞🏻🐗🏴🇮🇪
💥LLONGYFARCHIADAU MAWR IAWN I CEIRW NANT / MÔN STARS 💥
Pencampwyr Cwpan Road to Principality 2024 🏆
Llongyfarchiadau a phob lwc i Tudur Jones o’n tîm ieuenctid a Leah Stewart a Begw Ffransis o’n MônStars!🐗🐗🐗🏉👏🏴
Anfonwn ein cydymdeimladau dwys i teulu a ffrindiau Chloe Bidwell, chwaraewr i’r MônStars a RGC. Newyddion torcalonnus🐗💔
🚨 TÎM NEWYDD ARLWYO A BAR! 🚨
Mae’n bleser ymestyn croeso cynnes i’n teulu rygbi i Sarah a’i thîm — Chris, Emily, Llio, Toby, Mike, Teri, Noella, Sarah a Dani! 🐗🏉🤝🍽️🍻
Cyfle Busnes yng Nghlwb Rygbi Llangefni🐗🍽🍻
Mae gan ein clwb llewyrchus gyfle busnes i'r person iawn i redeg y gegin, y gwasanaeth arlwyo a'r bar. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu busnes gyda photensial i ehangu.
I ddysgu mwy neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch:
Meic 07840 403986 / Simon 07774 905567
Pentwr o rygbi cyffwrdd ymlaen trwy'r haf, beth am ymuno yn yr hwyl?🐗🏉😎
Dewch i ymuno â ni yng Nghae Smyrna ar gyfer Diwrnod Gwobrwyo’r Adran Iau a dathlu diwedd ein hanner canfed blwyddyn fel clwb rygbi!
Dewch â’r teulu i gyd a mwynhau pnawn o ddathlu gyda’ch teulu rygbi! 🐗🏉🏆🏅
Llongyfarchiadau mawr i Catrin Stewart ar ôl iddi cael ei henwi fel chwaraewr y twrnamaint i Gymru yn y chwe gwlad Dan 18! Dipyn o gamp, ond dim syndod efo’r holl waith caled mae hi yn neud yn ymarfer 👏🏻🐗🏉🏴
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn falch o gyhoeddi penodiad Andrew McMinimee yn Swyddog Hwb. Partneriaeth yw'r penodiad rhwng Undeb Rygbi Cymru, Ysgol Uwchradd Bodedern, Ysgol Uwchradd Llangefni a'r Clwb. Mae Andrew yn chwarae i'n tîm cyntaf ac erdychwn ymlaen i weithio gydag o i hybu a datblygu cyfleon rygbi yn yr ardal.🐗🏉🤝
Llongyfarchiadau Cymru a Catrin! Gwyliwch y gêm i gyd ar y cyswllt isod🐗🏴🇮🇪🏉🤩👏
Pob lwc Catrin!🐗🏴 7️⃣ 🏉💪🤩
Llongyfarchiadau i Catrin Stewart ar cael dy ddewis i garfan Cymru Dan 18 ar gyfer gwyl Chwe Gwlad yng Nghaeredin!🐗🏉🏴
Gwych i weld dwy o'n MônStars, Lowri a Catrin yng Nghamp Ymarfer Cymru Dan 18!🐗🐗🏉🏴🤩