Diolch i Ellie George am gyflwyno ein plac Achrededig Platinwm i'r cadeirydd Simon Jones a'r ysgrifennydd Chris Gumn 🐗🏆
Archwiliwch y clwbDewislen
Diolch i Ellie George am gyflwyno ein plac Achrededig Platinwm i'r cadeirydd Simon Jones a'r ysgrifennydd Chris Gumn 🐗🏆
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod Clwb Rygbi Llangefni wedi ennill Achrediad Platinwm URC—y lefel uchaf sydd ar gael. Mae hyn yn cydnabod rhagoriaeth y clwb ym meysydd llywodraethu, datblygu, seilwaith a chynaliadwyedd hirdymor. 🐗🏉🤩🏆🥇
🚗🛍️ GWERTHIANT CIST CAR CLWB RYGBI LLANGEFNI 🛍️🚗
Ar agor i Aelodau'r Clwb ac i'r Cyhoedd!
📅 Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf
📍 Clwb Rygbi Llangefni
⏰ Gosod stondinau o 9:00yb
⏰ Ar agor i'r cyhoedd o 10:00yb tan 2yp
💷 £10 y stondin, dim ond 30 o lefydd ar gael.
🚨 Cyhoeddiad 🚨
Capten Tîm 1af Dynion am y tymor - Bedwyr Williams!
Llongyfarchiadau a phob lwc! 🐗🏉🤩
Cinio Blynyddol a Noson Wobrwyo 1/5/2026 @ 19:00
Ticedi ar gael ar ein gwefan yn awr!🐗🍽🎫🏆
Diolch i Tristian am sesiwn wych arall yn Clwb Rygbi Llangefni 💪🏼🏉⭐️ #yempact
Gwydnwch Meddwl ✅
Meddylfryd Twf ✅
Gallu Adlamu ✅
Noson Tân Gwyllt 5/11/2025 19:00 🐗🎆🎇
Teulu o 4 - £15, unigolion - £5. Arian parod yn unig
Drysau a bar ar agor 18:00🍻 (Derbynnir cardiau)
Cyfres Quilter Nations yn fyw - Clwb ar agor am ffwyd a diod o 12:30 (22/11/2025 & 29/11/2025)
Does dim modd neud cyfiawnder mewn geiriau am cyfraniad Eddie i’r byd rygbi ac i’r gymuned. Diolch yn fawr iawn am bopeth, bydd colled enfawr ar eich hôl.
Cydymdeimladau dwysaf i’w deulu oddiwrth ei deulu rygbi. 🐗🏉❤️
Dewch i weld tri prawf y Llewod yn y clwb. Brecwast a peint am £12 🐗🦁🏉🍽🍺
Da iawn i Paul Magee oedd yn rhan o’r tim dyfarnu i rownd derfynnol bowlen ieuenctid Cymru dros y penwythnos! Dim ref, dim gem - Diolch Paul! 👏🏻🐗🏉🏟️🏴
Cefni 42-28 Yr Wyddgrug 🐗🏉🥓
Diolch yn fawr iawn i Leprino am yr amddiffynwyr postiau newydd👌👏
Byddwn yn croesawu timau Dan 14 & Dan 16 Ormskirk penwythnos yma felly dewch a'ch llais i gefnogi Cymru fory! 🐗🏉🏴🏴🇮🇹🇮🇪🇫🇷🏴
Dewch i gefnogi eich gwlad yn eich clwb rygbi lleol! Clwb yn agored 13:45 8/3/2025. 🐗🏉🏴🏴🇮🇪🇫🇷🍻🍻🍻
Dewch i gefnogi eich gwlad yn eich clwb rygbi lleol! Clwb yn agored 13:30 22/2/2025. 🐗🏉🏴🇮🇪🏴🏴🍻🍻🍻
Toweli Oddballs Cefni mewn stoc ar lein yn awr! 🐗👌
Cyfle Busnes yng Nghlwb Rygbi Llangefni 🐗🍽🍻
Mae gan ein clwb llewyrchus gyfle busnes i'r person iawn i redeg y gegin, y gwasanaeth arlwyo a'r bar. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu busnes gyda photensial i ehangu.
I ddysgu mwy neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch:
Chris 07715 704864 / Simon 07774 905567
Noson wobrwyo gwirfoddolwyr cymuned URC nos fory! 🐗🏉👏
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni nos Wener 5ed Gorffennaf 2024 am 6.30 yr hwyr yng Nghae Smyrna, Llangefni.
Ar ôl yr adran busnes fydd trafodaeth ynghylch estyniad y clwb. Fydd hwn yn prosiect mawr fydd angen cymorth drwy'r clwb gyfan felly yr ydym yn gobeithio newch ymdrech i fynychu.
Dewch i ymuno â ni yng Nghae Smyrna ar gyfer Diwrnod Gwobrwyo’r Adran Iau!
Dewch â’r teulu i gyd a mwynhau pnawn o ddathlu gyda’ch teulu rygbi! 🐗🏉🏆🏅
Gêm Coffa 1/6/2024 🐗🏉❤️💙💛
Dynion Cefni v Tîm Gwahoddiad Gogledd Cymru
Llongyfarchiadau mawr i Lowri Williams a Catrin Stewart sydd wedi chwarae i dim Dan 20 Cymru yn erbyn Lloegr! 🤩🐗🐗🏴🏴
Llongyfarchiadau anferthol i un o hoelion wyth y clwb - Gareth Parry - am gael ei gydnabod gan yr URC am ei waith caled yn datblygu rygbi merched ar Ynys Môn a Gogledd Cymru. Heb gwaith arloesol Gareth, mae hi’n saff i ddweud fuasai y hwb merched MônStars ddim yn bodoli. Rydan ni’n falch iawn ohonat ti GP ❤️🏉🐗
Tudur yn sgorio tri chais i Cymru Dan 18 yn erbyn Portiwgal! 🐗🏉🏴🇵🇹👏