Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Club Accreditation socials Platinum

Newyddion

11 Medi 2026

Diolch i Ellie George am gyflwyno ein plac Achrededig Platinwm i'r cadeirydd Simon Jones a'r ysgrifennydd Chris Gumn 🐗🏆

11 Medi 2026

Diolch yn fawr iawn i noddwyr crysau chwara newydd ein timau dynion - APS Engineering, Keegans, Holyhead Towing, Anglesey Apparel Môn, RC Coatings, Morgan Evans a D13 Creative 🐗🐗🏉🤝🤝🤝

18 Gorffennaf 2026

Llongyfarchiadau i bawb a gwblhaodd y Cwrs Hyfforddi Tagiau URC yn CR Llangefni neithiwr! Mae'r dyfodol yn ddisglair i'n Sgwadiau Tagiau! Diolch yn fawr i Dafydd Roberts am redeg y cwrs. Mwynhaodd pawb. 👍🏉🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

15 Gorffennaf 2026

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod Clwb Rygbi Llangefni wedi ennill Achrediad Platinwm URC—y lefel uchaf sydd ar gael. Mae hyn yn cydnabod rhagoriaeth y clwb ym meysydd llywodraethu, datblygu, seilwaith a chynaliadwyedd hirdymor. 🐗🏉🤩🏆🥇

30 Mehefin 2026

🚨 Cyhoeddiad 🚨

Capten 2il Dîm Dynion am y tymor - Jac Jones!

Llongyfarchiadau a phob lwc! 🐗🏉🤩

22 Mehefin 2026

🚗🛍️ GWERTHIANT CIST CAR CLWB RYGBI LLANGEFNI 🛍️🚗

Ar agor i Aelodau'r Clwb ac i'r Cyhoedd!

📅 Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf
📍 Clwb Rygbi Llangefni
⏰ Gosod stondinau o 9:00yb
⏰ Ar agor i'r cyhoedd o 10:00yb tan 2yp
💷 £10 y stondin, dim ond 30 o lefydd ar gael. 

16 Mehefin 2026

🚨 Cyhoeddiad 🚨

Capten Tîm 1af Dynion am y tymor - Bedwyr Williams!

Llongyfarchiadau a phob lwc! 🐗🏉🤩

20 Ebrill 2026

Cinio Blynyddol a Noson Wobrwyo 1/5/2026 @ 19:00

Ticedi ar gael ar ein gwefan yn awr!🐗🍽🎫🏆

10 Mawrth 2026

Llongyfarchiadau mawr i Efa Parry ag Erin Carson ar ôl iddynt cynrychioli tim dan 18 Cymru penwythnos dwytha yn Vicenza yn erbyn yr Eidal! Buddigoliaeth o 32 pwynt i 28. Gwych genod! 👏🏻🤩🐗🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇮🇹 

26 Chwefror 2026

Diolch i Tristian am sesiwn wych arall yn Clwb Rygbi Llangefni 💪🏼🏉⭐️ #yempact

Gwydnwch Meddwl ✅
Meddylfryd Twf ✅
Gallu Adlamu ✅

3 Tachwedd 2025

Noson Tân Gwyllt 5/11/2025 19:00 🐗🎆🎇

Teulu o 4 - £15, unigolion - £5. Arian parod yn unig

Drysau a bar ar agor 18:00🍻 (Derbynnir cardiau)

20 Hydref 2025

Cyfres Quilter Nations yn fyw  - Clwb ar agor am ffwyd a diod o 12:30 (22/11/2025 & 29/11/2025)

CRLL Crys i Bawb