🐗🏉👏👏👏❤️
Archwiliwch y clwbDewislen
🐗🏉👏👏👏❤️
Bore prysur yn y clwb gyda phum ysgol yn cystadlu mewn gŵyl Tag Dan 15. Da iawn Ioan Jones am drefnu🐗🏉🤩
Yr ydym wedi cael ein dewis ar gyfer #GreenTokenGiving yn #Asda #Llangefni. Pleidleisiwch i ni heddiw a gallem derbyn £500 gan #AsdaFoundation #Community
Mae eich pleidlais yn golygu byddem yn gallu disodli yr offer sydd yn cael ei defnyddio gan ein adran iau, ieuenctid, genod, merched a timau dynion a gafodd ei ddifrodi yn ddiweddar #GreenTokenGiving #AsdaFoundation
Diolch!🐗🏉🙌
Crys teyrnged i Huw “Stretch” – rhywbeth bach i’w gofio. Dyma oedd steil crys clwb pan roedd Huw yn rhan o’r Tîm Ieuenctid a pan oedd yn cychwyn efo’r tîm 1af.🐗🏉❤💛
Fydd archebion yn cymeryd o leia 10 wythnos i’w cyflawni. Mae maint crysa Macron yn llai na’r arferol felly gofalwch edrych ar y siart maint. Fydd yr archeb gynta yn cael ei gau 19/7.
Mae cofrestriad chwarewyr am y tymor 2021/2022 wedi agor arlein drwy WRU Game Locker i pob chwaraewyr a phob oedran.🐗🏉👌
Wythnos Gwirfoddolwyr 2021
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn cybnabod cyfraniad gwirfoddolwyr ym mhob agwedd o glwb chwaraeon llwyddiannus yng nghanol y gymdeithas leol ac yn arbennig yn ystod cyfnod mor heriol🐗🏉👏👏👏
Croeso adref! Mae sessiynnau ymarfer yn ail gychwyn i bawb o dan 18 wythnos nesa. Croeso i aelodau newydd - cysylltwch â ni am fwy o fanylion!🐗🏉😎🤩❤️
🐗🏉😎🤞
Pa crys da chi am wisgo? Croeso cynnes o hyd i aelodau newydd i'n teulu rygbi🐗🏉😎 #CrysIBawb #TeuluRygbi
Cadwch yn saff a wela ni chi ar ôl y toriad 🐗🏉👍
Dyma gynllun o'r system un-ffordd ar gyfer sessiynna ymarfer. Mae dau safle dihenitio dwylo, un wrth ddod i fewn a llall ar y ffordd allan. Gofynnwn hefyd i bawb droi fyny ar amser fel ein bod yn cadw trefn - cofiwch parcio ym maes parcio'r cyngor, DIM y clwb. Os yn fuan arhoswch yn y car nes mae'n amser. Mae'n hynod o bwysig fod pawb yn dilyn y drefn er mwyn diogelwch pawb. Diolch am eich cydweithrediad a fedra ni ddim disgwyl gweld pawb yn ôl ar Gae Smyrna!🐗🏉😍😎🥳
Yn dilyn cyfarwyddiadau gan URC yr ydym yn gallu cychwyn ymarfer mewn grwpiau bach o mis Awst ymlaen gan dilyn canllawiau yr undeb ynlgyn a COVID-19 er mwyn diolgeu iechyd ein aelodau. Yn ogystal mae cofrestru a trosglwyddo chwaraewyr yn ail agor ar y 1af o Awst a fydd rhaid i pawb fod wedi cofrestru ac eistedd cwrs arlein syml ymwybyddiaeth COVID-19 mwyn cael cymeryd rhan. Mae croeso i chwaraewyr newydd ymuno ein teulu rygbi felly cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yr ydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Gae Smyrna!🐗🐗🐗🏉🤩
Yn ystod Wythos Gwirfoddoli, a drwy gydol y flwyddyn, mae Clwb Rygbi Llangefni yn dathlu a cydnabod cyfaraniad amhrisiadwy yr holl wirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed i gynnal a datblygu ein Clwb. Hebddynt ni fydd yna gyfle i gymaint o bobl ifanc fwynhau gem orau'r byd.🐗🤩🏉👏
Diolch
Canllawiau diweddara gan URC🐗🏉👍
Nadolig wedi dod yn hwyr, neu yn fuan! Bocsys o crysa chwara wedi personoleiddio wedi cyrraedd!👌🐗🏉
Diolch Arfon!👌🐗🏉
Thank you very much to everyone for organuising a very special weekend in the company of Mike Phillips - unforgettable occasion - and a big thank you to Alwyn who was key in the organising!🤩🐗🏉🦁🏴
Mae ganddo ni tywydd arbennig ar gyfer y camp sgiliau wedi'i drefnu i chi!👌☀️🐗🏉
Cyfle i cael hyfforddiant rygbi can arwr Cymru a'r Llewod!
Timau D7-D13 ar Ddydd Gwener, timau D14-D16, Ieuenctid, Merched a Dynion ar Ddydd Sadwrn. Am ddim i aelodau - rheswm arbennig i ymuno ein clwb!🏉🐗🏴👍🏼
Yr ydym yn ymdrechu i ddarparu cyfleuon i gymaint o ferched a genod a phosib i chwara ein gêm gwych! Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.👏🤩🏉🐗
Rygbi genod yn unig o oed 7-16. Dewch i drio ein gêm, croeso i aelodau newydd!🏉🤩
Dewch i ymuno ein teulu rygbi!🏉🐗🐗🐗🐗🤩
Falch iawn o gefnogi rygbi genod trwy y clwstwr MônStars. Gareth Parry o'n Adran Iau yn cynrhychioli y clwstwr fel arweinydd👏🐗🏉🌟🌟🌟
Noson brysur yn y clwb heno, ymarfer rygbi MônStars 18:00 - 19:00🏉⭐, Tîm Merched🏉🐗 19:00 - 20:30 a Timau Dynion🏉🐗 19:00 - 20:30