Pob lwc i Begw a Leah heddiw yn erbyn Iwerddon! 🤞🏻🐗🏴🇮🇪
Archwiliwch y clwbDewislen
Pob lwc i Begw a Leah heddiw yn erbyn Iwerddon! 🤞🏻🐗🏴🇮🇪
Llongyfarchiadau, Tudur! Cap #1 🐗🏴🏉
Llongyfarchiadau enfawr a phob lwc i'n mewnwr Tîm Ieuenctid, Tudur Jones ar cae ei ddewis i garfan Cymru Dan 18 i chwara Yr Alban penwythnos yma! 🐗🏉🏴👏
Anfonwn ein cydymdeimladau dwys i teulu a ffrindiau Chloe Bidwell, chwaraewr i’r MônStars a RGC. Newyddion torcalonnus🐗💔
Noson Tân Gwyllt 3/11/2023 19:00 🐗🎆🎇
Teulu o 4 - £15, unigolion - £5. Arian parod yn unig
Drysau a bar ar agor 18:00🍻 (Derbynnir cardiau)
🏆 Gwobrau Chwaraeon Môn Actif 2023
⭐️ Clwb Iau y Flwyddyn
Diolch enfawr a da iawn i'n holl wirfoddolwyr adran iau anhygoel, sy'n aberthu cymaint o'u hamser rhydd i greu amgylchedd mor wych i'n plant ddarganfod eu cariad at rygbi.
PLWS……..
Llongyfarchiadau enfawr i'n 3 seren ryngwladol - Catrin Stewart, Celt Ffransis and Owain Evans am eu llwyddiant heno ⭐️⭐️⭐️
Mae’r dyfodol yn ddisglair🌟
🚨 TÎM NEWYDD ARLWYO A BAR! 🚨
Mae’n bleser ymestyn croeso cynnes i’n teulu rygbi i Sarah a’i thîm — Chris, Emily, Llio, Toby, Mike, Teri, Noella, Sarah a Dani! 🐗🏉🤝🍽️🍻
Cyfle Busnes yng Nghlwb Rygbi Llangefni🐗🍽🍻
Mae gan ein clwb llewyrchus gyfle busnes i'r person iawn i redeg y gegin, y gwasanaeth arlwyo a'r bar. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu busnes gyda photensial i ehangu.
I ddysgu mwy neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch:
Meic 07840 403986 / Simon 07774 905567
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni nos Wener 30 Mehefin 2023 am 7.00 yr hwyr yng Nghae Smyrna, Llangefni
🐗💔
Pentwr o rygbi cyffwrdd ymlaen trwy'r haf, beth am ymuno yn yr hwyl?🐗🏉😎
Newyddion torcalonnus, cwsg yn dawel Aron🐗💔
Dewch i ymuno â ni yng Nghae Smyrna ar gyfer Diwrnod Gwobrwyo’r Adran Iau a dathlu diwedd ein hanner canfed blwyddyn fel clwb rygbi!
Dewch â’r teulu i gyd a mwynhau pnawn o ddathlu gyda’ch teulu rygbi! 🐗🏉🏆🏅
Llongyfarchiadau mawr i Meic, ein Trysorydd, am ei enwebiad haeddiannol. Mae Meic wedi wedi gwasanaethu ein clwb fel chwaraewr ac fel trysorydd am nifer o flynyddoedd. Diolch Meic!🐗🏉👏
Mae Pwyllgor Gwaith y Clwb wedi penderfynu cefnogi argymhellion URC i newid cyfansoddiad yr Undeb ac wedi pleidleisio drwy procsi.🐗🏉🏴
Diolch yn fawr iawn i'n noddwyr newydd, W. O. Jones Printers Ltd! Croeso i'r tîm!🐗🏉🤝
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn falch o gyhoeddi penodiad Andrew McMinimee yn Swyddog Hwb. Partneriaeth yw'r penodiad rhwng Undeb Rygbi Cymru, Ysgol Uwchradd Bodedern, Ysgol Uwchradd Llangefni a'r Clwb. Mae Andrew yn chwarae i'n tîm cyntaf ac erdychwn ymlaen i weithio gydag o i hybu a datblygu cyfleon rygbi yn yr ardal.🐗🏉🤝
Diolch yn fawr iawn i Cerbydau K&P Coaches am noddi siacedi eilyddion ein 2il Tîm Dynion!🐗🏉👏🤝
Diolch yn fawr iawn i DU Construction a Llefrith Nant Dairy am noddi siacedi eilyddion ein Tîm 1af Dynion!🐗🐗🏉👏🤝
Clwb Rygbi Llangefni yn falch o gefnogi'r Samariaid🐗❤️💙
🚨HENO🚨
Arian parod yn unig ar gyfer mynediad💷
Teulu o 4 - £10, Unigolion - £5
Bar ar Agor 18:00 (derbynnir cardiau)🍻
Cymru v Seland newydd YN FYW! Dewch i gefnogi eich gwlad yn eich clwb rygbi lleol!🐗🏉🏴🇳🇿👏🍻
Diolch yn fawr iawn i'n noddwyr newydd, Adeiladwaith OBR! Croeso i'r tîm!🐗🏉🤝
Diolch yn fawr iawn i'n noddwyr newydd, Holyhead Towing Co. Ltd! Croeso i'r tîm!🐗🏉🤝