Cefni Dan 14 50-24 Nant Conwy. Canlyniad gwych. Diolch yn fawr i Rhos Helyg Agri Contractors am noddi yr adran iau!👍🏻🐗🏉
Archwiliwch y clwbDewislen
Cefni Dan 14 50-24 Nant Conwy. Canlyniad gwych. Diolch yn fawr i Rhos Helyg Agri Contractors am noddi yr adran iau!👍🏻🐗🏉
Colli 55-5 llynedd yn erbyn Nant Conwy yn ein tymor gyntaf efo’n gilydd, enill 33-22 heddiw. Tîm dan 13 yn datblygu yn dda. Mae dal croeso i chwaraewyr newydd!🐗🏉
Yr U9’s wedi y fraint o gymryd rhan yn y ‘guard of honour’ i RGC yn Eirias heddiw, a Carwyn wedi cael profiad gwych o fod yn mascot ⭐️🙌🏻
Llongyfarchiadau Dion Owen-Jones a Rob Muirhead am gael eu dewis i chwarae i dan 15 RGC Gorllewin yn erbyn Islwyn nos Wener yma (C.G. 6:30y.h. @ CR Bangor). Pob lwc! 🐗🏉
Dan 13 ennill 50-0 bore ma a chwara gêm cymysg wedyn. Pob clod i Gaergybi yn eu gêm gynta!👍🏻🐗🏉
Mae’r dyfodol yn ddisglair! 🐗🏉😎
Os yr ydych eisiau archebu siorts, sanna, crys chwara neu hwdi i'ch plentyn gadewch i hyfforddwyr/rhelowr tîm eich plentyn wybod. Fe nawn nhw eich cynghori ar prisia hefyd (mae siorts maint oedolion sydd eisioes wedi ei ordro yn cyrraedd cyn diwedd y mis)🐗🏉
D14 Llangefni - Medi 4, 2013 v Bangor (yng Nghlwb Rygbi Bangor)🏉🐗
Diwrnod Agored ar 25/8 gyda lawnsiad cit newydd a cofrestru ac ymarferion adran iau ar y dyddiadau eraill.
Llongyfarchiadau mawr i Dion Jones, Gethin Williams, Rob Muirhead a Gwilym Thomas am gael eu dewis i carfan ymarfer tim dan 15 RGC Gorllewin! 👍🏻🏉🐗
Falch o ddeud ein bod efo 4 hyfforddwr lefel 2 arall yn y clwb ar ol i Gareth, Alastair, Rich a Ioan cwblhau y cwrs penwythnos dwythaf! 🏉🐗
Diwrnod bendigedig ar gyfer Gwyl y Traeth Urdd Ynys Môn yn Llanddwyn heddiw! 👍🏻🏉🐗
Chwilio am rhywbeth i'w wneud dros gwyliau'r haf? Hyfforddiant rygbi deuddydd gan Urdd Ynys Môn. Croeso i bechgyn a genethod. Cynradd ag Uwchradd 🏉🐗
Llongyfarchiadau i bencampwyr Rygbi Ysgolion Cynradd Ynys Môn 2018! Cafwyd diwrnod bendigedig o chwarae rygbi yn yr haul ddoe gyda pentwr o blant yn cymryd rhan. Trefnwyd gan griw Môn Actif.
Yr hogia dan 12 wedi mwynhau y sessiwn ffitrwydd a cael cyfarfod ennillydd medal aur gemau y gymanwlad - Gareth Evans!💪🏻🏋🏻♂️🏉🐗
Llongyfarchiadau i Mathew Jones. Wedi cael trwadd ir 30 olaf sgwad Dan19 Tim rygbi’r gynrhair Cymru 🏉🐗
Llongyfarchiadau i Ben Jones am gael gwobr ‘mwyaf o gynnydd’ drwy’r tymor gyda RGC dan 15.
Noson wych heno yn Noson Wobrwyo y clwb!🐗🏅
Diwrnod da iawn ym Methesda heddiw, timau D7, D8, D9, D10 a D11 wedi mwynhau eu hunain a chwarae rygbi gwych tra wnaeth y tim D14 ennill y blât! 👍🏻🏉🐗
Noson hyfforddi gwych yn y clwb heno. Diolch Tim Hoare! 👍🏻🏉
Aelodau o'r adran iau yn mwynhau eu hunain ym Mharc Eirias cyn gem RGC! Y dyfodol! 🏉🐗
Fedrwch chi cynnal twrnament efo llai na 24 awr o rhybudd? Fedran siwr!👍🏻🏉🏆
New shorts and socks for the junior section ready. Only waiting for the shirts now!👌🏻🏉
Y clwb yn brysur efo gemau ac ymarfer yr adran iau bore ma!👍🏻🏉🏉🏉