Da chi am ymuno ni am rygbi cyffwrdd Nos Iau nesa?🤔🐗🏉👍🏻
Archwiliwch y clwbDewislen
Da chi am ymuno ni am rygbi cyffwrdd Nos Iau nesa?🤔🐗🏉👍🏻
Dewch i ymuno ein teulu rygbi!🏉🐗🐗🐗🐗🤩
Rygbi cyffwrdd cymysg yn ail gychwyn mis Mai. Ffitrwydd a hwyl. Croeso i bawb dros 15 oed.🐗🏉
Tri o hogia Cefni yn chwarae yn erbyn eu gilydd penwythnos yma! Mathew Poważa-Jones i myfyrwyr De Cymru a Dafydd Jones a Will Lynch i myfyrwyr Gogledd Cymru! Pob lwc i’r tri! 🐗🐗🐗🏉👍🏻
Canlyniad:
Cefni 42-7 Bro Ffestiniog 👍🏻🐗🏉
Bala v Cefni👊🏻🐗🏉
Llunia gan Trevor Edwards📷👏🏻
Saff dweud oedd hi chydig bach yn wlyb heddiw!😂🐗
Iorus, Dafydd, Sion a Maldi 1984 - Diolch i Derec Owen am y llun!👍🐗🏉
🚨Carfan tîm 1af fory🚨🐗🏉
Cyfarfod yn y clwb am 11:15 fory, bys 49 sedd yn gadael am 11:30. Croeso i aelodau'r ail dîm, tîm merched a cefnogwyr!🚌🐗🏉
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn sicr bod pawb yn y teulu rygbi wedi e'u cyffwrdd gan yr hyn a digwyddodd i Mathew Parry, ar effeith ar ei deulu, yn dilyn yr anaf tra'n chwarae i Clwb Rygbi Pwllheli yn ddiweddar.
Sefydlwyd tudalen Gofundme ac mae unigolion a chlybiau wedi cyfranu drwy'r tudalen i fod yn gymorth i Mathew a'i deulu. Rhydd i bawb rhannu'r gwybodaeth a/neu gyfranu at y gronfa.
Llongyfarchiadau mawr i Dafydd Jones am gael ei ddewis i carfan Wales Dragonhearts squad i wynebu Rygbi'r Gynghrair Llundain a Rygbi'r Gynghrair Serbia! 👍🏉🐗
Sessiwn ymarfer gwych i’r timau dynion. Dros 30 yn ymarfer a gorffen efo gêm yn mysg ei gilydd barod am Dydd Sadwrn👏🏼🏉🐗
Newyddion yn torri - Fydd yr 2il dîm yn cymeryd lle Llangollen yn Adran 3 Gogledd Cymru tymor yma. Fydd y rhestr gemau yn cael ei gyhoeddi no fuan 🏉🐗
Mae hogia Cefni ym mhob man yn y byd!🏉🐗
Diwrnod gwych yn 7s Machynlleth. Colli yn rownd cyn derfynnol y plât i Dolgellau 12-19👍🏻🏉🐗
Diwrnod Agored ar 25/8 gyda lawnsiad cit newydd a cofrestru ac ymarferion adran iau ar y dyddiadau eraill.
Noson brysur yn y clwb heno, ymarfer rygbi MônStars 18:00 - 19:00🏉⭐, Tîm Merched🏉🐗 19:00 - 20:30 a Timau Dynion🏉🐗 19:00 - 20:30
Amser gwych wedi i'w gael yn y cinio blynyddol a noson wobrwyo 🏆🏅🐗🏉
Simon Jones, rheolwr yr 2il dîm, yn cael ei gyflwyno efo Tlws Dean Griffiths ar ran yr 2il dîm, ennillwyr gynghrair 2il dimau Gogledd Cymru 🏆👍🏻🏉😁
Llongyfarchiadau mawr i Paul Magee a Dafydd Jones am gael eu dewis ar gyfer carfan North Wales Origin RL!
Carfan tîm 1af yn edrych yn dda yn y topia ymarfer newydd cyn gêm Dolgellau👌🏻🏉
Er gwaetha’r tywydd mae’r gwaith caled yn parhau! 🏉🏉🏉
Ymarfer cyn tymor - croeso i chwaraewyr newydd o pob safon, hên ac ifanc! 👍🏻🏉