Does dim geiriau. Cwsg mewn hedd Huw🐗💔
Archwiliwch y clwbDewislen
Does dim geiriau. Cwsg mewn hedd Huw🐗💔
Annwyl Bawb,
Hoffai Clwb Rygbi Llangefni ddiolch i bawb am y gefnogaeth a gafwyd yn ystod y pleidleisio dros y prosiect ffens ddiogelwch. Rydym wedi llwyddo i sicrhau grant o £2,500 gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru.
Unwaith eto Diolch🐗😎👏👏👏
Diolch yn fawr iawn i D. Hughes Welding & Fabrication Ltd a Mona Lifting Ltd am eu cefnogaeth barhaus drwy adnewyddu eich pecynnau noddwyr!🐗🏉😎👏👏👏
Croeso mawr i'n noddwyr newydd, Christeyns Food Hygiene UK. Diolch yn fawr am gefnogi rygbi ar Ynys Môn!🐗🏉😎👏👏👏
3 llond bocs o backpacks Under Armour wedi cyrraedd!👌🐗😎
Dim noson tân gwyllt heno ond fydda ni yn ôl! Cadwch yn saff!🐗😎💥💫💥
Cadwch yn saff a wela ni chi ar ôl y toriad 🐗🏉👍
Mae gan y clwb côd QR ar gyfer cofrestru efo’r app Covid-19 NHS yn awr🐗👍🦠
Dymuna'r Clwb ddiolch o galon am wasananeth Chris Redmayne ac Elfed Williams. Mae'r ddau wedi penderfynu ymddeol o'i dyletswyddau - Chris fel Cadeirydd ein Is-bwyllgor Adnoddau ac Elfed fel Rheolwr y Tim Ieuenctid. Roedd Chris yn gyfrifol am drefnu y noswethiau tan gwyllt llwyddiannus ymysg llu o weithgareddau eraill dros nifer o flynyddoedd.
Diolch yn fawr i'r ddau🐗🐗🏉👏
Dyma gynllun o'r system un-ffordd ar gyfer sessiynna ymarfer. Mae dau safle dihenitio dwylo, un wrth ddod i fewn a llall ar y ffordd allan. Gofynnwn hefyd i bawb droi fyny ar amser fel ein bod yn cadw trefn - cofiwch parcio ym maes parcio'r cyngor, DIM y clwb. Os yn fuan arhoswch yn y car nes mae'n amser. Mae'n hynod o bwysig fod pawb yn dilyn y drefn er mwyn diogelwch pawb. Diolch am eich cydweithrediad a fedra ni ddim disgwyl gweld pawb yn ôl ar Gae Smyrna!🐗🏉😍😎🥳
Yn dilyn cyfarwyddiadau gan URC yr ydym yn gallu cychwyn ymarfer mewn grwpiau bach o mis Awst ymlaen gan dilyn canllawiau yr undeb ynlgyn a COVID-19 er mwyn diolgeu iechyd ein aelodau. Yn ogystal mae cofrestru a trosglwyddo chwaraewyr yn ail agor ar y 1af o Awst a fydd rhaid i pawb fod wedi cofrestru ac eistedd cwrs arlein syml ymwybyddiaeth COVID-19 mwyn cael cymeryd rhan. Mae croeso i chwaraewyr newydd ymuno ein teulu rygbi felly cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yr ydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Gae Smyrna!🐗🐗🐗🏉🤩
Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni Cyf. 2019-2020
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni Cyf. 27 Gorffennaf 2020 am 19.00 drwy Zoom.
Oherwydd y crisis iechyd cyhoeddus cyfarfod busnes yn unig fydd hwn.
Os am fynychu’r cyfarfod cofrestrwch drwy anfon e-bost at [email protected] ac yn agosach at y dyddiad uchod byddwch yn derbyn cyfrinair i gymryd rhan.
Yn gywir
John R Jones - Ysgrifennydd
Pleser mawr i Dion o’n tîm 1af rhoi tabled Amazon Fire i Cara Jowitt ar gyfer ward dementia Cemlyn yn Ysbyty Cefni ar ran Clwb Rygbi Cymry Caerdydd. Llongyfarchiadau ar eich sialens i hel y pres drwy rhedeg/cerdded o gwmpas Cymru a diolch yn fawr am y rhodd!🏉🐗👏👏👏
Yn ystod Wythos Gwirfoddoli, a drwy gydol y flwyddyn, mae Clwb Rygbi Llangefni yn dathlu a cydnabod cyfaraniad amhrisiadwy yr holl wirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed i gynnal a datblygu ein Clwb. Hebddynt ni fydd yna gyfle i gymaint o bobl ifanc fwynhau gem orau'r byd.🐗🤩🏉👏
Diolch
Canllawiau diweddara gan URC🐗🏉👍
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn cyhoeddi gyda thristwch mawr bod ein cyn lywydd, o 1989 to 1997, ac aelod am oes Arthur Furlong wedi marw. Roedd Arthur yn gymeriad mawr a phoblogaidd yn y clwb ac yn lywydd ar gyfnod allweddol yn hanes ein datblygiad ac yn cyfranu I weithgareddau’r clwb gyda hiwmor a doethineb . Yr oedd yn gyfaill annwyl i'r chwaraewyr gyda sgwrs ffraeth yn eu hysbryboli ar y cae ac wrth y bar. Ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu i gyd, oedd hefyd yn rhan anatod o'r clwb.🐗❤️
Gemau yn fyw yn y clwb, dewch lawr i gefnogi!🏉🐗👏🏴🍻
Nadolig wedi dod yn hwyr, neu yn fuan! Bocsys o crysa chwara wedi personoleiddio wedi cyrraedd!👌🐗🏉
Noson allan hyfforddwyr Adran Iau!🐗🏉😂🍛🍻
Diolch Arfon!👌🐗🏉
Lluniau anhygoel o'r tân gwyllt gan Gareth Mon Photography unwaith eto!😲🐗👏💥🎆🎇
Dewch yn llu! Fydd Batala Bangor yn darparu adloniant cyn y tân gwyllt am 6:30!🐗🥁🍔🌭💥🎇🎆
Fydd rhaid i ni dechra feddwl am werthu dillad babi clwb!😂🐗🏉🤩
Pwy fysa efo diddordeb prynu crys clasurol Clwb Rygbi Llangefni fel gwisgwyd gan George North? Yr ydym yn cysitro rhoi archeb i fewn amdanynt gyda opsiwn o rhif o'ch dewis yn y pris!🐗👌😎