🐗🏉😎🤞
Archwiliwch y clwbDewislen
🐗🏉😎🤞
Diwrnod Rhyngwladol y Merched hapus!🐗🏉👏
Pa crys da chi am wisgo? Croeso cynnes o hyd i aelodau newydd i'n teulu rygbi🐗🏉😎 #CrysIBawb #TeuluRygbi
Cadwch yn saff a wela ni chi ar ôl y toriad 🐗🏉👍
Dyma gynllun o'r system un-ffordd ar gyfer sessiynna ymarfer. Mae dau safle dihenitio dwylo, un wrth ddod i fewn a llall ar y ffordd allan. Gofynnwn hefyd i bawb droi fyny ar amser fel ein bod yn cadw trefn - cofiwch parcio ym maes parcio'r cyngor, DIM y clwb. Os yn fuan arhoswch yn y car nes mae'n amser. Mae'n hynod o bwysig fod pawb yn dilyn y drefn er mwyn diogelwch pawb. Diolch am eich cydweithrediad a fedra ni ddim disgwyl gweld pawb yn ôl ar Gae Smyrna!🐗🏉😍😎🥳
Yn dilyn cyfarwyddiadau gan URC yr ydym yn gallu cychwyn ymarfer mewn grwpiau bach o mis Awst ymlaen gan dilyn canllawiau yr undeb ynlgyn a COVID-19 er mwyn diolgeu iechyd ein aelodau. Yn ogystal mae cofrestru a trosglwyddo chwaraewyr yn ail agor ar y 1af o Awst a fydd rhaid i pawb fod wedi cofrestru ac eistedd cwrs arlein syml ymwybyddiaeth COVID-19 mwyn cael cymeryd rhan. Mae croeso i chwaraewyr newydd ymuno ein teulu rygbi felly cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yr ydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Gae Smyrna!🐗🐗🐗🏉🤩
Yn ystod Wythos Gwirfoddoli, a drwy gydol y flwyddyn, mae Clwb Rygbi Llangefni yn dathlu a cydnabod cyfaraniad amhrisiadwy yr holl wirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed i gynnal a datblygu ein Clwb. Hebddynt ni fydd yna gyfle i gymaint o bobl ifanc fwynhau gem orau'r byd.🐗🤩🏉👏
Diolch
Canllawiau diweddara gan URC🐗🏉👍
Rhai o aelodau’r Tîm Merched (chwaraewyr & hyfforddwyr) yn mynychu noson hyfforddi ym Mharc Eirias heno👏🐗🏉
Nadolig wedi dod yn hwyr, neu yn fuan! Bocsys o crysa chwara wedi personoleiddio wedi cyrraedd!👌🐗🏉
Diolch Arfon!👌🐗🏉
Diolch yn fawr iawn unwaith eto i Morgan Owen am y lluniau gwych - mwy yn ein oriel!👌🐗🏉📷
Fydd y Tîm Merched yn trafeilio i Llangollen ar Ddydd Sul hefyd, pob lwc genod!👍🐗🏉
Tri hyfforddwr arall o’r clwb wedi cwblhau cwrs hyfforddi lefel 1 heddiw👏🐗🏉
Beth bynnag di’r sgôr mae’r merched pob tro yn mwynhau! Croeso i chwaraewyr newydd, profiad ddim yn angenrheidiol!🐗🏉🤩
Pentwr o adloniant ar eich cyfer Dydd Sul yma! Yn ogystal fydd y merched yn erbyn Gaernarfon am 2:30!🐗🤩🏴🏉
Rhedwch fatha hogan!👊🐗🏉
Thank you very much to everyone for organuising a very special weekend in the company of Mike Phillips - unforgettable occasion - and a big thank you to Alwyn who was key in the organising!🤩🐗🏉🦁🏴
Mae ganddo ni tywydd arbennig ar gyfer y camp sgiliau wedi'i drefnu i chi!👌☀️🐗🏉
Balch o gyhoeddi ein capteiniaid am y tymor 2019-2020. Tîm 1af Tom Owen, 2il Dîm Gareth Roberts a Tîm Merched Gwenno Evans!👏🏉🐗🐗🐗
Cyfle i cael hyfforddiant rygbi can arwr Cymru a'r Llewod!
Timau D7-D13 ar Ddydd Gwener, timau D14-D16, Ieuenctid, Merched a Dynion ar Ddydd Sadwrn. Am ddim i aelodau - rheswm arbennig i ymuno ein clwb!🏉🐗🏴👍🏼
Cinio blynyddol y clwb heno , siwr o fod yn noson i’w gofio efo 150 o aelodau yn mynychu!🏆🏉🍽🍾🥂🍺🐗🐗🐗
Yr ydym yn ymdrechu i ddarparu cyfleuon i gymaint o ferched a genod a phosib i chwara ein gêm gwych! Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.👏🤩🏉🐗
Cracar o sessiwn gynta o rygbi cyffwrdd, niferoedd da o wyneba newydd. Mae croeso a digon o le i fwy ymuno wythnos nesa!👍🏻🐗🏉