Hogia Cefni wedi neud yn dda yn erbyn y Marines heddiw🐗🏉👌
Archwiliwch y clwbDewislen
Hogia Cefni wedi neud yn dda yn erbyn y Marines heddiw🐗🏉👌
Da iawn i Gethin Lindley, Twm Tudor, Gethin Williams a Harri Burns o’r tim ieuenctid am gamu fyny i’r ail dim heno! Perfformiadau gwych gan y pedwarawd gyda Twm yn sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf i’r dynion 💪🏻🏉🐗
Gêm Coffa 7/5/2022🐗🏉
I ddathlu aelodau y clwb a gollwyd yn ystod y cyfnod clo.
Os oes rhywun dros 35 oed sydd isio rhoi'r esgidiau nôl ymlaen unwaith eto cysylltwch â ni! Fydd cwpwl o sesiynnau ymarfer o flaen llaw i cael gwarad o rhwyfaint o'r gwe pry cop!🐗🏉🕸
Yr ydym wedi cael ein dewis ar gyfer #GreenTokenGiving yn #Asda #Llangefni. Pleidleisiwch i ni heddiw a gallem derbyn £500 gan #AsdaFoundation #Community
Mae eich pleidlais yn golygu byddem yn gallu disodli yr offer sydd yn cael ei defnyddio gan ein adran iau, ieuenctid, genod, merched a timau dynion a gafodd ei ddifrodi yn ddiweddar #GreenTokenGiving #AsdaFoundation
Diolch!🐗🏉🙌
Crys teyrnged i Huw “Stretch” – rhywbeth bach i’w gofio. Dyma oedd steil crys clwb pan roedd Huw yn rhan o’r Tîm Ieuenctid a pan oedd yn cychwyn efo’r tîm 1af.🐗🏉❤💛
Fydd archebion yn cymeryd o leia 10 wythnos i’w cyflawni. Mae maint crysa Macron yn llai na’r arferol felly gofalwch edrych ar y siart maint. Fydd yr archeb gynta yn cael ei gau 19/7.
Mae cofrestriad chwarewyr am y tymor 2021/2022 wedi agor arlein drwy WRU Game Locker i pob chwaraewyr a phob oedran.🐗🏉👌
Rygbi Cyffwrdd Dros 35 🐗🏉😎
Wythnos Gwirfoddolwyr 2021
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn cybnabod cyfraniad gwirfoddolwyr ym mhob agwedd o glwb chwaraeon llwyddiannus yng nghanol y gymdeithas leol ac yn arbennig yn ystod cyfnod mor heriol🐗🏉👏👏👏
Looking for a 2nd Team manager - contact us for more information🐗🏉😎
Llongyfarchiadau a pob lwc i capten newydd ein 2il Dîm, Siôn Williams. Diolch yn fawr i Gaz Myf ein cyn-gapten am ei wasanaeth yn y swydd!🐗🐗🏉😎
Mae sessiynnau ymarfer yn ail gychwyn i'n timau dynion ar 29/4. Croeso i chwaraewyr newydd - cysylltwch â ni am fwy o fanylion!🐗🏉😎🤩❤️
🐗🏉😎🤞
Pa crys da chi am wisgo? Croeso cynnes o hyd i aelodau newydd i'n teulu rygbi🐗🏉😎 #CrysIBawb #TeuluRygbi
Cadwch yn saff a wela ni chi ar ôl y toriad 🐗🏉👍
Adroddiadau gemau 5ed Ionawr 1991!🐗🐗🏉
Dyma gynllun o'r system un-ffordd ar gyfer sessiynna ymarfer. Mae dau safle dihenitio dwylo, un wrth ddod i fewn a llall ar y ffordd allan. Gofynnwn hefyd i bawb droi fyny ar amser fel ein bod yn cadw trefn - cofiwch parcio ym maes parcio'r cyngor, DIM y clwb. Os yn fuan arhoswch yn y car nes mae'n amser. Mae'n hynod o bwysig fod pawb yn dilyn y drefn er mwyn diogelwch pawb. Diolch am eich cydweithrediad a fedra ni ddim disgwyl gweld pawb yn ôl ar Gae Smyrna!🐗🏉😍😎🥳
Penblwydd hapus i Rhys a Dylan heddiw! Mae Rhys yn chwaraewr tîm 1af presennol sydd wedi dod trwy ein Adran Iau a Dylan yn gyn chwaraewr, sydd hefyd wedi dod trwy'r Adran Iau sydd rwan yn rhannu ei brofiad gyda'r tîm Dan 7!🐗🐗🏉🥳🍰
Yn dilyn cyfarwyddiadau gan URC yr ydym yn gallu cychwyn ymarfer mewn grwpiau bach o mis Awst ymlaen gan dilyn canllawiau yr undeb ynlgyn a COVID-19 er mwyn diolgeu iechyd ein aelodau. Yn ogystal mae cofrestru a trosglwyddo chwaraewyr yn ail agor ar y 1af o Awst a fydd rhaid i pawb fod wedi cofrestru ac eistedd cwrs arlein syml ymwybyddiaeth COVID-19 mwyn cael cymeryd rhan. Mae croeso i chwaraewyr newydd ymuno ein teulu rygbi felly cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yr ydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Gae Smyrna!🐗🐗🐗🏉🤩
Yn ystod Wythos Gwirfoddoli, a drwy gydol y flwyddyn, mae Clwb Rygbi Llangefni yn dathlu a cydnabod cyfaraniad amhrisiadwy yr holl wirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed i gynnal a datblygu ein Clwb. Hebddynt ni fydd yna gyfle i gymaint o bobl ifanc fwynhau gem orau'r byd.🐗🤩🏉👏
Diolch
Canllawiau diweddara gan URC🐗🏉👍
Mae’r baedd gwyllt ym Mhatagonia!🐗👌🏴🇦🇷
Pob hwyl i ti ym Mhatagonia, Ynyr!🐗🏉🎯🤣
Fedrwch chi ddarganfod hyfforddwr Tîm 1af a chwedlonwr clwb, Rhodri Gray yn y llun?🧐🐗🏉📷
Diolch yn fawr iawn i Morgan Evans, Olew Môn a’r Lobster Pot am noddi crysa chwara newydd y Tîm 1af a’r 2il Dîm! Yr ydym yn hynod o ddiolchgar i’n noddwyr i gyd am eu cymorth. A diolch i Ian Horsman o Triple Effect am tynny y lluniau👏🐗🐗🏉