Llongyfarchiadau i bencampwyr Rygbi Ysgolion Cynradd Ynys Môn 2018! Cafwyd diwrnod bendigedig o chwarae rygbi yn yr haul ddoe gyda pentwr o blant yn cymryd rhan. Trefnwyd gan griw Môn Actif.
Archwiliwch y clwbDewislen
Llongyfarchiadau i bencampwyr Rygbi Ysgolion Cynradd Ynys Môn 2018! Cafwyd diwrnod bendigedig o chwarae rygbi yn yr haul ddoe gyda pentwr o blant yn cymryd rhan. Trefnwyd gan griw Môn Actif.
Noson wych arall o rygbi cyffwrdd cymysg eto heno! Ymunwch a ni wythnos nesa! 🏉🐗
Yr hogia dan 12 wedi mwynhau y sessiwn ffitrwydd a cael cyfarfod ennillydd medal aur gemau y gymanwlad - Gareth Evans!💪🏻🏋🏻♂️🏉🐗
Noson arbennig heno yn y clwb. Gwyl rygbi gynta y MônStars⭐️. Clwb Rygbi Llangefni yn falch iawn o gefnogi rygbi genod ar yr ynys👌🏻🏉🐗
Llongyfarchiadau i Mathew Jones. Wedi cael trwadd ir 30 olaf sgwad Dan19 Tim rygbi’r gynrhair Cymru 🏉🐗
Llongyfarchiadau i Ben Jones am gael gwobr ‘mwyaf o gynnydd’ drwy’r tymor gyda RGC dan 15.
Noson wych heno yn Noson Wobrwyo y clwb!🐗🏅
Diwrnod da iawn ym Methesda heddiw, timau D7, D8, D9, D10 a D11 wedi mwynhau eu hunain a chwarae rygbi gwych tra wnaeth y tim D14 ennill y blât! 👍🏻🏉🐗
Simon Jones, rheolwr yr 2il dîm, yn cael ei gyflwyno efo Tlws Dean Griffiths ar ran yr 2il dîm, ennillwyr gynghrair 2il dimau Gogledd Cymru 🏆👍🏻🏉😁
Noson hyfforddi gwych yn y clwb heno. Diolch Tim Hoare! 👍🏻🏉
Aelodau o'r adran iau yn mwynhau eu hunain ym Mharc Eirias cyn gem RGC! Y dyfodol! 🏉🐗
Noson dda yn lawnsiad rygbi MônStars. Run amser wythnos nesa!👍🏻🏉
Fedrwch chi cynnal twrnament efo llai na 24 awr o rhybudd? Fedran siwr!👍🏻🏉🏆
Diolch yn fawr iawn i MY Scaffold am noddi y crysa newydd i’r tîm merched 👌🏻🏉
New shorts and socks for the junior section ready. Only waiting for the shirts now!👌🏻🏉
Y clwb yn brysur efo gemau ac ymarfer yr adran iau bore ma!👍🏻🏉🏉🏉
Sessiwn ymarfer gwych arall i’r merched. Er gwaetha’r oerni, roedd cyflwr y caea yn ardderchog. Amrwyiaeth o oedrana yn cymeryd rhan, pam na ddewch chi wythnos nesa i drio? 🏉🏉🏉
Mae’r adran iau mewn dwylo saff ar ôl ail rhan y cwrs cymorth cynta! 🤕🙈😂
Sessiwn ymarfer gynta gwych heno efo’r merched! Sgilia da a lot o frwdfrydedd! Dewch i drio wythnos nesa!👍🏻🏉
Golwg gaeafol iawn ar y clwb bore ma! 🌨❄️
Llongyfarchiadau mawr i Paul Magee a Dafydd Jones am gael eu dewis ar gyfer carfan North Wales Origin RL!
Carfan tîm 1af yn edrych yn dda yn y topia ymarfer newydd cyn gêm Dolgellau👌🏻🏉
Mae’n amlwg fod dipyn o diddordeb mewn ail sefydlu timau merched o wahanol oedranna (yn cynnwys oedolion) yn y clwb. Os oes ganddoch diddordeb mewn unai fod yn rhan o un o’r timau neu fel rheolwr/hyfforddwr cysylltwch â ni os gwelwch yn dda! 👍🏉
Hoodies newydd wedi cyrraedd! 👌🏻🏉🏉🏉