10 Hydref 2018
Llongyfarchiadau Dion Owen-Jones a Rob Muirhead am gael eu dewis i chwarae i dan 15 RGC Gorllewin yn erbyn Islwyn nos Wener yma (C.G. 6:30y.h. @ CR Bangor). Pob lwc! 🐗🏉
10 Hydref 2018
Llongyfarchiadau Dion Owen-Jones a Rob Muirhead am gael eu dewis i chwarae i dan 15 RGC Gorllewin yn erbyn Islwyn nos Wener yma (C.G. 6:30y.h. @ CR Bangor). Pob lwc! 🐗🏉
10 Hydref 2018
Penblwydd hapus Vince, cracar o deisen!🐗🏉🎂🍾🥂
5 Hydref 2018
Cyfarfod yn y clwb am 11:15 fory, bys 49 sedd yn gadael am 11:30. Croeso i aelodau'r ail dîm, tîm merched a cefnogwyr!🚌🐗🏉
3 Hydref 2018
Fydd angen gwirfoddolwyr o'r clwb ar y cae ac ar y llwybrau os gwelwch yn dda!👍💥🐗
25 Medi 2018
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn sicr bod pawb yn y teulu rygbi wedi e'u cyffwrdd gan yr hyn a digwyddodd i Mathew Parry, ar effeith ar ei deulu, yn dilyn yr anaf tra'n chwarae i Clwb Rygbi Pwllheli yn ddiweddar.
Sefydlwyd tudalen Gofundme ac mae unigolion a chlybiau wedi cyfranu drwy'r tudalen i fod yn gymorth i Mathew a'i deulu. Rhydd i bawb rhannu'r gwybodaeth a/neu gyfranu at y gronfa.
24 Medi 2018
Y clwb yn edrych yn wych ar gyfer priodas Dydd Gwener🎊👰🤵
24 Medi 2018
Cari Bown yn cario y bêl yn gryf yn erbyn Llangollen ddoe. Colli 10-22 oedd yr hanes ond dangoswyd llawer o welliant!🐗🏉
23 Medi 2018
Dan 13 ennill 50-0 bore ma a chwara gêm cymysg wedyn. Pob clod i Gaergybi yn eu gêm gynta!👍🏻🐗🏉
16 Medi 2018
Caergybi 31-15 Cefni 🏉🏉🏉🐗
Tri cais i’r merched, gêm gwych!
9 Medi 2018
Mae’r dyfodol yn ddisglair! 🐗🏉😎
6 Medi 2018
Llongyfarchiadau mawr i Dafydd Jones am gael ei ddewis i carfan Wales Dragonhearts squad i wynebu Rygbi'r Gynghrair Llundain a Rygbi'r Gynghrair Serbia! 👍🏉🐗
5 Medi 2018
Os yr ydych eisiau archebu siorts, sanna, crys chwara neu hwdi i'ch plentyn gadewch i hyfforddwyr/rhelowr tîm eich plentyn wybod. Fe nawn nhw eich cynghori ar prisia hefyd (mae siorts maint oedolion sydd eisioes wedi ei ordro yn cyrraedd cyn diwedd y mis)🐗🏉
4 Medi 2018
D14 Llangefni - Medi 4, 2013 v Bangor (yng Nghlwb Rygbi Bangor)🏉🐗
30 Awst 2018
Sessiwn ymarfer gwych i’r timau dynion. Dros 30 yn ymarfer a gorffen efo gêm yn mysg ei gilydd barod am Dydd Sadwrn👏🏼🏉🐗
26 Awst 2018
Newyddion yn torri - Mae’r tîm merched wedi cael ei derbyn i gynghrair Gogledd Cymru tymor yma. Fydd y rhestr gemau allan fory 🏉🐗
24 Awst 2018
Newyddion yn torri - Fydd yr 2il dîm yn cymeryd lle Llangollen yn Adran 3 Gogledd Cymru tymor yma. Fydd y rhestr gemau yn cael ei gyhoeddi no fuan 🏉🐗
13 Awst 2018
Mae hogia Cefni ym mhob man yn y byd!🏉🐗
7 Awst 2018
Sessiwn ymarfer da eto heno efo’r genod. Rygbi, ffitrwydd a hwyl! Dewch i ymuno’r tîm! Croeso i pawb o bob gallu, profiad ddim yn angenrheidiol!👍🏻🏉🐗
4 Awst 2018
Diwrnod gwych yn 7s Machynlleth. Colli yn rownd cyn derfynnol y plât i Dolgellau 12-19👍🏻🏉🐗
3 Awst 2018
Cae Smyrna yn edrych yn dda ar ôl y glaw👌🏻🏉🐗
1 Awst 2018
Ymarfer ardderchog heno efo’r dan 16 a'r ieuenctid. Yr hogia wedi gweithio’n galed dros ben, ac i gyd hefo gwên ar eu gwynebau.👍🏈🐗
24 Gorffennaf 2018
Diwrnod Agored ar 25/8 gyda lawnsiad cit newydd a cofrestru ac ymarferion adran iau ar y dyddiadau eraill.
24 Gorffennaf 2018
Noson brysur yn y clwb heno, ymarfer rygbi MônStars 18:00 - 19:00🏉⭐, Tîm Merched🏉🐗 19:00 - 20:30 a Timau Dynion🏉🐗 19:00 - 20:30
22 Gorffennaf 2018
Llongyfarchiadau mawr i Dion Jones, Gethin Williams, Rob Muirhead a Gwilym Thomas am gael eu dewis i carfan ymarfer tim dan 15 RGC Gorllewin! 👍🏻🏉🐗