18 Mawrth 2021
Mae rhoi gwaed yn eich cymuned, yn achub bywydau yn eich cymuned.
Byddwch yn arwr rhywun🐗🏴❤️💉
📅19/4/2021
⏰12:30 - 15:30 & 17:00 - 19:30
📍Anglesey Showground
https://wbs.wales/ClwbRygbiLla...
18 Mawrth 2021
Mae rhoi gwaed yn eich cymuned, yn achub bywydau yn eich cymuned.
Byddwch yn arwr rhywun🐗🏴❤️💉
📅19/4/2021
⏰12:30 - 15:30 & 17:00 - 19:30
📍Anglesey Showground
https://wbs.wales/ClwbRygbiLla...
18 Mawrth 2021
🚨Dychwelyd i ymarfer rygbi Dan 18🚨
Yn dilyn cyhoeddiad URC yr ydym yn gallu ail gychwyn ymarfer I oedrannau Dan 18 ac i lawr o 27ain Mawrth. Mae mwy o fanylion i ddilyn i wneud efo niferoedd ayyb.
Ar ôl cyfarfod pwyllgor rygbi yr ydym wedi penderfynnnu, oherwydd yr amseru efo ysgolion yn ail gychwyn a cynnydd mewn achosion yng Nghaergybi ac ar yr ynys yn gyffredinol i ddisgwyl tan ar ôl gwylia Pasg i ail gychwyn.
Os fydd niferoedd achosion wedi dod lawr yn y cyfamser yr ydym yn edrych ar dyddiad o 12ed Ebrill ymlaen i ail gychwyn. Wrth gwrs mae hyn yn gwbl ddibynnol ar y sefyllfa ar y pryd. Mor awyddus ac yr ydym i ail gychwyn ein blaenoriaeth ydi diogelwch pawb. Gobeithio wela ni chi yn fuan!🐗🏉🤞
8 Mawrth 2021
Diwrnod Rhyngwladol y Merched hapus!🐗🏉👏
5 Mawrth 2021
Llongyfarchiadau i Greg a Kathryn ar enedigaeth Ellie! Un arall i'r MônStars da ni'n siwr!🐗🥳🤩👶❤
19 Chwefror 2021
Does dim geiriau. Cwsg mewn hedd Huw🐗💔
18 Chwefror 2021
Annwyl Bawb,
Hoffai Clwb Rygbi Llangefni ddiolch i bawb am y gefnogaeth a gafwyd yn ystod y pleidleisio dros y prosiect ffens ddiogelwch. Rydym wedi llwyddo i sicrhau grant o £2,500 gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru.
Unwaith eto Diolch🐗😎👏👏👏
3 Chwefror 2021
Diolch yn fawr iawn i D. Hughes Welding & Fabrication Ltd a Mona Lifting Ltd am eu cefnogaeth barhaus drwy adnewyddu eich pecynnau noddwyr!🐗🏉😎👏👏👏
3 Chwefror 2021
Croeso mawr i'n noddwyr newydd, Christeyns Food Hygiene UK. Diolch yn fawr am gefnogi rygbi ar Ynys Môn!🐗🏉😎👏👏👏
13 Rhagfyr 2020
Nadolig llawen iawn i chi gyd oddi wrth pawb yn tîm D12. 🎄🎅🏻🏉🐗
13 Rhagfyr 2020
Pawb o tîm D9 wedi cael llwyth o hwyl a sbri (a siocled!🍫) yn ymarfer ar y 3G borema. Diolch yn fawr i Sion Corn 🎅🐗
Nadolig Llawen a a Blwyddyn Newydd Dda 🎄
13 Rhagfyr 2020
Hoffai’r Tîm D10 ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i bawb!!
Diolch am eich cefnogaeth!🎅🏻🎄 🏉
13 Rhagfyr 2020
Wel am hwyl yn y gwynt a glaw bore ma. 💨🌧
Gath u carfan D8 hwyl yn rhedeg ar ôl y dinosaurs 🐗🦖
Nadolig Llawen i’r plantos a rhieni carfan D8 gan y hyfforddwyr 🎅🏻 joiwch y chocs 🍫
11 Rhagfyr 2020
3 llond bocs o backpacks Under Armour wedi cyrraedd!👌🐗😎
10 Rhagfyr 2020
Ennillwyr plât Ieuenctid 1991 - a mae'r crys dal i ffitio Mike!🐗🏉😎🥇
8 Rhagfyr 2020
Pa crys da chi am wisgo? Croeso cynnes o hyd i aelodau newydd i'n teulu rygbi🐗🏉😎 #CrysIBawb #TeuluRygbi
6 Rhagfyr 2020
Tîm D12 wedi cael hwyl bore ma yn y sesiwn hyfforddi. Braf gweld ei sgiliau yn datblygu.🐗👌🏉❄️🏉❄️
5 Tachwedd 2020
Dim noson tân gwyllt heno ond fydda ni yn ôl! Cadwch yn saff!🐗😎💥💫💥
22 Hydref 2020
Cadwch yn saff a wela ni chi ar ôl y toriad 🐗🏉👍
2 Hydref 2020
Mae gan y clwb côd QR ar gyfer cofrestru efo’r app Covid-19 NHS yn awr🐗👍🦠
2 Hydref 2020
Mae ganddo ni lefydd i chwaraewyr newydd ymuno carfan ein tîm Dan 15. Profiad ddim yn angenrheidiol - mae pawb yn cael cyfle i chwarae a cael hyfforddiant gan hyfforddwyr Lefel 2 URC profiadol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth🐗🏉🤩😎
2 Hydref 2020
Dymuna'r Clwb ddiolch o galon am wasananeth Chris Redmayne ac Elfed Williams. Mae'r ddau wedi penderfynu ymddeol o'i dyletswyddau - Chris fel Cadeirydd ein Is-bwyllgor Adnoddau ac Elfed fel Rheolwr y Tim Ieuenctid. Roedd Chris yn gyfrifol am drefnu y noswethiau tan gwyllt llwyddiannus ymysg llu o weithgareddau eraill dros nifer o flynyddoedd.
Diolch yn fawr i'r ddau🐗🐗🏉👏
16 Medi 2020
Adroddiadau gemau 5ed Ionawr 1991!🐗🐗🏉
14 Awst 2020
Dyma gynllun o'r system un-ffordd ar gyfer sessiynna ymarfer. Mae dau safle dihenitio dwylo, un wrth ddod i fewn a llall ar y ffordd allan. Gofynnwn hefyd i bawb droi fyny ar amser fel ein bod yn cadw trefn - cofiwch parcio ym maes parcio'r cyngor, DIM y clwb. Os yn fuan arhoswch yn y car nes mae'n amser. Mae'n hynod o bwysig fod pawb yn dilyn y drefn er mwyn diogelwch pawb. Diolch am eich cydweithrediad a fedra ni ddim disgwyl gweld pawb yn ôl ar Gae Smyrna!🐗🏉😍😎🥳
27 Gorffennaf 2020
Penblwydd hapus i Rhys a Dylan heddiw! Mae Rhys yn chwaraewr tîm 1af presennol sydd wedi dod trwy ein Adran Iau a Dylan yn gyn chwaraewr, sydd hefyd wedi dod trwy'r Adran Iau sydd rwan yn rhannu ei brofiad gyda'r tîm Dan 7!🐗🐗🏉🥳🍰