26 Hydref 2021
Mae Clwb Rygbi Llangefni wedi dod i’r penderfyniad anodd o ganslo ein Noson Tân Gwyllt eleni yn dilyn asesiad trylwyr o sefyllfa Covid ar Ynys Môn. Yr ydym yn siomedig bod angen cyrraedd y penderfyniad ond mae angen ystyried iechyd a llesiant ein gwirfoddolwr, cefnogwyr a'r mynychwyr yn y cyfnod anodd yma. Byddwn yn ôl y flwyddyn nesaf! 🐗💥🎇🎆














































