Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Trevor Jones – Taff

6/10/2020

Mae’r flwyddyn rhyfeddol yma yn parhau i fod yn anodd tu hwnt i Glwb Rygbi Llangefni. Rydym yn nodi gyda thristwch mawr bod o sylfaenwr gwreiddol y Clwb wedi ein gadael, sef Trevor Jones neu Taff. Mae diolch a gwerthfawrogiad y Clwb i unigolion o Dde Cymru yn fawr a Trevor oedd un o’r cenhadwyr a daeth a blannodd y gwreiddyn yn 1971, sydd wedi parahau a datblygu am bron i 50 mlynedd.

Mae storiau lu am Trevor ar ac oddiar y cae sydd erbyn hyn yn ran o fytholeg y Clwb ac sy’n dangos ei fod yn rhan anatod o weiad y Clwb . Yr oedd yn un o gymeiriadau cynnar y Clwb mewn cyfnod o gymeiriadau mawr. ‘Roedd yn chwaraewr ddigyfaddawd ar y cae â ddysgodd y sgiliau dirgel i flaenwyr dibrofiad y Clwb. Yr oedd yn sicr yn un o arweinwyr y tîm ar y cae ac yn mwynhau ei hyn ar ôl y chwiban.

Cydymdeimlwn a’i deulu a bydd coffâd da amdano yng Nghlwb Rygbi Llangefni am flynyddoedd i ddod. Cymaint oedd ein parch tuag at Trevor, am iddo sefydlu a chwarae, daeth yn aelod oes haeddiannol iawn.🐗🏉❤️

Trevor Jones