Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Steve Kieran

9/3/2021

Cofio Steve Kieran ar ei benblwydd

Mae’r Clwb wedi colli gwas da arall yn ddiweddar.

Dechreuodd Steve chwarae i Glwb Rygbi Llangefni oddeutu 1987 tan 1994 gyda’i frodyr Kevin a Vince. Chwaraeodd yn y rheng flaen ochr yn ochr a’i gefnder Bins (Dafydd Edwrads o Walchmai).

Ymunodd a’r adran Iau pan ddechreuodd ei fab Jason chwarae i’r garfan dan 8 a graddiodd yn hyfforddwyr iau yr un adeg â Bleddyn Hughes a Martin Hughes. Yr oedd yn hyfforddwr ar dîmau dan 14, 15 ac 16 a drefnodd daith llwyddiannus iawn i’r Iseldiroedd i dîm dan 15 y Clwb pan drechwyd tîmau o’r Iseldiroedd a Chylwb Rygbi Nelson mewn gystadleuaeth nodedig iawn.

Cydymdeimlwn a’r teulu oll a diolchwn am wasanaeth Steve.🐗🏉❤

158674776 2770027499880853 1836062507348271972 n
158688575 2770027503214186 2894034788737571908 n
159188346 2770027486547521 3733774271685078162 n
158828666 2770144496535820 4394743917027329237 n