Ar noson hyfryd yn Llangefni, chwarewyd gêm o dempo uchel gan y ddau dîm. Yn wir, y tîm cartref ddechreuodd gryfaf a bu raid i’r ymwelwyr amddiffyn yn ddewr a chadarn am y chwarter awr cyntaf pan aeth Llangefni ar y blaen gyda dwy gic gosb lwyddiannus. Ymatebodd olwyr Nant yn syth wedi mynd 6 – 0 i lawr trwy ymosodiad cyflym ar y chwith gyda’r asgellwr chwith, Jack Moriarty’n tirio yn y gornel. Troswyd drwy gic arbennig gan y Canolwr, Steffan Horan o’r linell ochr gyda’r bêl yn troi rhwng y pyst ar yr eiliad olaf! Parhaoedd y sgôr yn 6 – 7 ar yr hanner.
Wedi pryd o dafod gan yr Hyfforddwyr yn ystod yr egwyl, sgoriodd Nant yn syth o’r ail ddechrau gyda’r hannerwr, Sion Pringle, yn gwibio’i ffordd rhwng yr amddiffynwyr i sgorio ger y pyst gyda Steff Horan yn ychwanegu’r ddeubwynt. Yn fuan wedyn, gwelwyd Steff Horan yn gwneud yr un symudiad ei hun gan wibio’n gelfydd trwy’r amddiffyn i dirio ar y dde. Yn anffodus, ni lwyddodd i droi’i gais ei hun yn werth seithbwynt. Yn ôl y daeth yr ynyswyr a bu iddynt sgorio cais haeddiannol wrth rymblo tosodd drwy’r blaenwyr.
Troswyd y cais i roi sgôr o 13 – 19 wedi 10 munud o’r ail hanner. Nid oedd Nant yn fodlon ar hyn ac wedi derbyn cic amddiffynol uchel, gwelwyd chwaraewr y gêm, y cefnwr Cai Jones yn dangos ei allu i osgoi pob ymgais am dacl ac, o weld y gwyngalch, yn newid gêr i hyrddio trosodd am gais y bu i Steffan Horan ei drosi. Bodlonodd Nant ar y sgôr yma, a gwelwyd nifer o eilyddio gan y ddwy ochr gyda’r ymwelwyr yn dod a nifer o chwarewyr yn eu harddegau ymlaen i ennill profiad ar lefel uwch o rygbi. Ni welwyd unrhyw sgorio pellach a diolch i’r ddau dîm ac i’r Dyfarnwr hefyd, am baratoi gêm rygbi bleserus iawn i’w gwylio.