Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Arthur Furlong

28/5/2020

Mae Clwb Rygbi Llangefni yn cyhoeddi gyda thristwch mawr bod ein cyn lywydd, o 1989 to 1997, ac aelod am oes Arthur Furlong wedi marw. Roedd Arthur yn gymeriad mawr a phoblogaidd yn y clwb ac yn lywydd ar gyfnod allweddol yn hanes ein datblygiad ac yn cyfranu I weithgareddau’r clwb gyda hiwmor a doethineb.

Yr oedd yn gyfaill annwyl i'r chwaraewyr gyda sgwrs ffraeth yn eu hysbryboli ar y cae ac wrth y bar. Ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu i gyd, oedd hefyd yn rhan anatod o'r clwb.🐗❤️

101561583 2545312195685719 3043661417925312512 n