Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Alun Griffiths (Alun Manweb)

30/9/2020

Eleni mae’r Clwb Rygbi wedi colli tri o’i ffyffloniad - dau cyn-lywydd - ac yr wythnos yma un o’r cymwynaswyr distaw sef Alun Griffiths, neu Alun Manweb i bawb

Mae’n debyg mae Keith Powell gyflwynodd Alun i’r Clwb pan roedd y ddau yn gweithio i Manweb. Bu yn hynod weithgar yn yr hen glwb ac oes oedd angen gwaith i’w wneud Alun oedd yn ateb y galw. Fu’n gyfrifol am lu o weithgareddau codi arian dros y Clwb, sef ‘tug of war’, tân gwyllt, bingo ac yn y blaen. Weithiodd yn wirfoddol tu ‘nôl i’r bar a fuodd yn hel arian ar y giat cyn gemau cartref ac yn teithio i gemau oddi cartref. Dywedodd Dafydd Lloyd, yn ei gyfnod ef fel Cadeirydd y Clwb ei fod wedi gweithio’n agos efo Alun ac wedi gwerthfawrogi pob cymorth, cyngor a chyfeillgarwch ganddo.

Mae bob clwb angen gwirfoddolwyr fel Alun – un sy’n gweithio yn ddistaw yn y cefndir ac yn cyflawni cymaint.

Mae’r Clwb yn cydymdeimlo’n ddwys a’i deulu ac yn diolch iddo am ei gyfraniad.

Cynhelir y gwasanaeth fore Sadwrn Hydref 3ydd am 11.00 , preifat i’r teulu o fewn yr Eglwys yn Isgraig, ond deallt bod modd i eraill ddod i’r Fynwent.

77413498 2398583980358542 1647220885452488704 n