Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Y Clwb

Ffurfiwyd y Clwb ym Mis Chwefror 1972 yn ystod ail ‘Oes Aur’ rygbi Cymru. Daeth dau o Rhydaman sef Trevor Jones a Vernon Gwyr i weithio yn Wellman’s a cyn i neb ddweud Barry John sefydlwyd clwb rygbi.

Chwaraewyd y gemau cartref ar gaeau’r ysgol gyfun lleol. Cynhaliwyd y sesiynu ymarfer yng nghampfa’r ysgol – gyda chwaraewyr y bel gron yn y sgwad oedd yn dangos potensial mawr ac yn cynnwys cynrychiolaeth dda o’r gymuned amaethyddol. Chwaraewyd 8 gem yn y tymor cyntaf a chollwyd un i Landudno.

Dros y tymhorau cynnar parhaodd y clwb i ddatblygu a bu’r taith cyntaf oddi cartref i Rosaith yn yr Alban i chwarae yn erbyn Gwasanaeth Sifil Rosaith.

Erbyn tymor 1973-74 roedd y clwb yn maesu dau dim. Mae’r tymor 1974-75 yn rhoi syniad o’r cynnydd – chwaraewyd 23, ennillwyd 17, gemau cyfartal 1, collwyd 5, pwyntiau o blaid 451 a phwyntiau yn erbyn 168. Hefyd ennillwyd cystadleuthau Cyngrair a Chwpan Gwynedd.

Defnyddwyd sawl ty clwb a caeau dros y blynyddoedd ond yn 1999, dan arweiniaeth doeth Iorus Evans, agorywd ty clwb newydd gan fachwr Cymru Robin MacBride.

‘Roedd sefydlu tim ieuenctid yn 1988 yn drobwynt i’r clwb gyda rhan fwyaf o’r chwaraewyr presennol yn gyn aelodau o’r adran ieuenctid. Dechreuwyd yr adran iau gyda tim dan 9 ac mae’r adran wedi datblygu yn ffynhonell o botensial mawr.

Ennillwyd statws hyn URC yn 2003. Mae’r clwb yn parhau i gynllunio ymlaen gyda’r defnydd o arian Loteri i wella’r caeau ac i ddatblygu i’r dyfodol drwy goleuadau chwarae i godi proffil y clwb drwy ceisio cynnal gemau cynrychioliadol.

First Committee Meeting Minutes
First Committee Meeting Minutes 2
First Committee Meeting Minutes 3
First Committee Meeting Minutes 4
First Committee Meeting Minutes 5
First Committee Meeting Minutes 6
First Committee Meeting Minutes 7