Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Newyddion

9 Ionawr 2023

Diolch yn fawr iawn i Cerbydau K&P Coaches am noddi siacedi eilyddion ein 2il Tîm Dynion!🐗🏉👏🤝

9 Ionawr 2023

Diolch yn fawr iawn i DU Construction a Llefrith Nant Dairy am noddi siacedi eilyddion ein Tîm 1af Dynion!🐗🐗🏉👏🤝

7 Tachwedd 2022

Clwb Rygbi Llangefni yn falch o gefnogi'r Samariaid🐗❤️💙

4 Tachwedd 2022

🚨HENO🚨

Arian parod yn unig ar gyfer mynediad💷

Teulu o 4 - £10, Unigolion - £5

Bar ar Agor 18:00 (derbynnir cardiau)🍻

3 Tachwedd 2022

Cymru v Seland newydd YN FYW! Dewch i gefnogi eich gwlad yn eich clwb rygbi lleol!🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇳🇿👏🍻

1 Tachwedd 2022

Diolch yn fawr iawn i'n noddwyr newydd, Adeiladwaith OBR! Croeso i'r tîm!🐗🏉🤝

https://www.obrconstruction.co...

4 Hydref 2022

Diolch yn fawr iawn i'n noddwyr newydd, Holyhead Towing Co. Ltd! Croeso i'r tîm!🐗🏉🤝

https://holyheadtowing.com/

9 Medi 2022

⭐️D11⭐️

Diolch i Geraint Evans, Rheolwr Gweithrediadau o Glanbia am ddod draw i Cae Smyrna heno i gyflwyno y crysau chwarae newydd i’r tîm Dan 11. Diolch yn fawr iawn i Glanbia Cheese Ltd am noddi y crysau bendigedig yma. 🐗👏🎉

23 Awst 2022

Diolch yn fawr iawn i pawb sydd wedi noddi crysa chwara newydd ein timau adran iau - edrych ymlaen i'w gweld yn chwarae ynddynt!🐗🏉😎

20 Awst 2022

Hogia Cefni wedi neud yn dda yn erbyn y Marines heddiw🐗🏉👌

3 Awst 2022

Llongyfarchiadau a phob lwc i Owen Parry a Celt Ffransis o'n tîm ieuenctid ar cael eu dewis i camp ymarfer Cymru Dan 18!🐗🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏉👏👏

http://northwalesrugby.wales/n...

20 Gorffennaf 2022

Ymarfer cyn tymor i'r tîm Dan 16 yn cychwyn 3/8/2022 18:00 - 19:10. Croeso i chwaraewyr newydd a cyn chwaraewyr!🐗🏉😎

14 Gorffennaf 2022

Mae ein tîm ieuenctid yn recriwitio chwaraewyr am tymor 2022-2023. Croeso i chwaraewyr newydd a cyn chwaraewyr. Ymarfer cyn tymor pob nos Fercher 19:00 - 20:30🐗🏉😎

12 Gorffennaf 2022

Pleser mawr cyhoeddi ein gwestai arbennig ar gyfer Cinio Dathlu 50 mlynedd - George North!🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🦁🏉👌

Ticedi ar gael ar ein gwefan🎟

🐗🏆🏅👔👗🍽🍷🍻🍻🍾5️⃣0️⃣

📆 13/8/2022
⏱ 19:00
📍 Neuadd Prichard Jones, Bangor

Cinio tri chwrs gydag opsiwn fegan/llysieuol.

27 Mehefin 2022

Llongyfarchiadau a phob lwc i Rob o'n tîm ieuenctid ar cael ei ddewis i Carfan Rygbi Cynghrair Cymru Dan 19!🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿💪😎

4 Mehefin 2022

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni Cyf. 24 Mehefin 2022 am 19.00 yng Ngae Smyrna, Llangefni.

Os am fynychu’r cyfarfod cofrestrwch drwy anfon e-bost at ysgrifennydd@clwbrygbillangefni.co.uk

Yn gywir,

John R Jones - Ysgrifennydd

24 Ebrill 2022

Dreigiau⚫️ 41-50 RGC 🟣

Dreigiau🔴 31-24 RGC ⚫️

Cais pob un i Dion, Tudur a Rhys. Da iawn hogia!🐗🐗🐗🐗🐗🐗🏉🏉🏉👏

Diolch i Andrew McMinimee am tynnu y llun!🤣🐗📷👍

13 Ebrill 2022

Da iawn i Gethin Lindley, Twm Tudor, Gethin Williams a Harri Burns o’r tim ieuenctid am gamu fyny i’r ail dim heno! Perfformiadau gwych gan y pedwarawd gyda Twm yn sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf i’r dynion 💪🏻🏉🐗

13 Ebrill 2022

Llongyfarchiadau Cymru a Catrin! Gwyliwch y gêm i gyd ar y cyswllt isod🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇮🇪🏉🤩👏

9 Ebrill 2022

Pob lwc Catrin!🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 7️⃣ 🏉💪🤩

5 Ebrill 2022

Llongyfarchiadau i Catrin Stewart ar cael dy ddewis i garfan Cymru Dan 18 ar gyfer gwyl Chwe Gwlad yng Nghaeredin!🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

25 Mawrth 2022

Gêm Coffa 7/5/2022🐗🏉

I ddathlu aelodau y clwb a gollwyd yn ystod y cyfnod clo.

Os oes rhywun dros 35 oed sydd isio rhoi'r esgidiau nôl ymlaen unwaith eto cysylltwch â ni! Fydd cwpwl o sesiynnau ymarfer o flaen llaw i cael gwarad o rhwyfaint o'r gwe pry cop!🐗🏉🕸

10 Mawrth 2022

Llongyfarchiadau ENFAWR i Celt Ffransis ar cael ei ddewis yng ngharfan Cymru Dan 18! Pob lwc!🐗🏉💪🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿

10 Mawrth 2022

Gwych i weld dwy o'n MônStars, Lowri a Catrin yng Nghamp Ymarfer Cymru Dan 18!🐗🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🤩