Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Newyddion

3 Ebrill 2024

Tudur yn sgorio tri chais i Cymru Dan 18 yn erbyn Portiwgal! 🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇵🇹👏

https://www.wru.wales/2024/04/...

2 Ebrill 2024

Pob lwc i Begw a Leah heddiw yn erbyn Iwerddon! 🤞🏻🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇮🇪

3 Mawrth 2024

Llongyfarchiadau, Tudur! Cap #1 🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏉

28 Chwefror 2024

Llongyfarchiadau enfawr a phob lwc i'n mewnwr Tîm Ieuenctid, Tudur Jones ar cae ei ddewis i garfan Cymru Dan 18 i chwara Yr Alban penwythnos yma! 🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿👏

https://www.wru.wales/2024/02/...

9 Chwefror 2024

Llongyfarchiadau a phob lwc i Tudur Jones o’n tîm ieuenctid a Leah Stewart a Begw Ffransis o’n MônStars!🐗🐗🐗🏉👏🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

https://www.wru.wales/2024/02/...

21 Rhagfyr 2023

Anfonwn ein cydymdeimladau dwys i teulu a ffrindiau Chloe Bidwell, chwaraewr i’r MônStars a RGC. Newyddion torcalonnus🐗💔

17 Rhagfyr 2023

Canlyniad:

Ieuenctid 22-17 Bethesda

Ennillwyr Cwpan Ieuenctid RGC! 🐗🏉👏🔥🥓🏆

Seren y gêm - Capten, Tomos Rogers! 🐗🏉🤩

30 Hydref 2023

Noson Tân Gwyllt 3/11/2023 19:00 🐗🎆🎇

Teulu o 4 - £15, unigolion - £5. Arian parod yn unig

Drysau a bar ar agor 18:00🍻 (Derbynnir cardiau)

26 Hydref 2023

🏆 Gwobrau Chwaraeon Môn Actif 2023

⭐️ Clwb Iau y Flwyddyn

Diolch enfawr a da iawn i'n holl wirfoddolwyr adran iau anhygoel, sy'n aberthu cymaint o'u hamser rhydd i greu amgylchedd mor wych i'n plant ddarganfod eu cariad at rygbi.

PLWS……..

Llongyfarchiadau enfawr i'n 3 seren ryngwladol - Catrin Stewart, Celt Ffransis and Owain Evans am eu llwyddiant heno ⭐️⭐️⭐️

Mae’r dyfodol yn ddisglair🌟

19 Medi 2023

🚨 TÎM NEWYDD ARLWYO A BAR! 🚨

Mae’n bleser ymestyn croeso cynnes i’n teulu rygbi i Sarah a’i thîm — Chris, Emily, Llio, Toby, Mike, Teri, Noella, Sarah a Dani! 🐗🏉🤝🍽️🍻

26 Mehefin 2023

Cyfle Busnes yng Nghlwb Rygbi Llangefni🐗🍽🍻

Mae gan ein clwb llewyrchus gyfle busnes i'r person iawn i redeg y gegin, y gwasanaeth arlwyo a'r bar. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu busnes gyda photensial i ehangu.

I ddysgu mwy neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch:

Meic 07840 403986 / Simon 07774 905567

9 Mehefin 2023

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni nos Wener 30 Mehefin 2023 am 7.00 yr hwyr yng Nghae Smyrna, Llangefni

CRLL Crys i Bawb